Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi lambastio rhaglen frechu Llywodraeth Cymru a galw drachefn am benodi Gweinidog Brechlynnau.

Cyfeiriodd Andrew RT Davies, Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, at adroddiadau sy’n dangos bod rhai pobol dros 80 oed yn gorfod aros wythnosau i dderbyn y frechlyn Covid-19 – galwodd hynny’n “warth cenedlaethol”.

Gan gyfeirio at stori newyddion bod dynes 84 oed o Abertawe sy’n gaeth i’r tŷ wedi cael gwybod efallai y bydd yn rhaid iddi aros hyd at ddau fis i gael ei brechlyn coronafeirws, os na all gyrraedd ei meddygfa, dywedodd Andrew RT Davies: “Mae darllen straeon fel hyn yn dorcalonnus, ac alla i ddim dychmygu’r gofid y mae hi a’i theulu yn ei deimlo ar hyn o bryd.

Galw am Weinidog Brechlynnau

“Nid yw pawb yn symudol” meddai “ni all pawb gyrraedd eu meddyg teulu, ac mae’n fwyfwy amlwg bod yn rhaid cynnal archwiliad brys gan feddygon teulu o’u cleifion sy’n gaeth i’w cartrefi fel nad yw’r grŵp bregus hwn yn cael eu hanghofio yn yr ymgyrch i frechu Cymru.

“Unwaith eto, dyma’r math o ddull y gallai Gweinidog brechlynnau penodedig fod yn gyfrifol amdano, yn hytrach na Gweinidog Iechyd sy’n ceisio mynd i’r afael â chymaint o faterion eraill yn ymwneud â’r pandemig.

“Gadewch i ni beidio ag anghofio hefyd mai dim ond dau ddiwrnod yn ôl y bu’r Gweinidog yn ailadrodd ei addewid y byddai saith o bob 10 o bobl dros 80 oed yng Nghymru a saith o bob 10 o’n preswylwyr a’n staff cartrefi gofal wedi cael eu pigiad cyntaf erbyn diwedd yr wythnos hon.

“Mae’n ddydd Gwener yfory, ac mae angen i ni glywed yn uniongyrchol gan y Gweinidog am y niferoedd maen nhw wedi llwyddo i’w taro.

“Rwyf am iddo lwyddo i gyrraedd y targed hwn, oherwydd os ydi o’n llwyddo, rydym yn llwyddo i amddiffyn y rhai sy’n agored i niwed mewn cymdeithas.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Os na allwch fynychu apwyntiad neu deithio i’r lleoliad, rhowch wybod i’ch bwrdd iechyd drwy system archebu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Byddan nhw’n cynnig apwyntiad arall ar ddiwrnod arall neu mewn lleoliad mwy cyfleus.

“Mae cynlluniau ar waith, hefyd, ar gyfer pobl sydd methu gadael y tŷ ac ar gyfer cartrefi gofal.

“Mae hyn yn golygu y gellir mynd â’r brechlyn yn ddiogel atynt gan ddefnyddio gwasanaeth symudol os na allant fynychu meddygfa neu ganolfan frechu dorfol.”