Yn y tair wythnos ers cwblhau Brexit, mae Llywodraeth San Steffan wedi dangos ei bod yn ceisio tanseilio datganoli, meddai Cwnsler Cyffredinol Cymru.

Ac mae Jeremy Miles wedi cydnabod y gallai annibyniaeth i’r Alban olygu gorfod edrych eto yn gwbl sylfaenol ar y berthynas rhwng Cymru a Lloegr.

“Ein hachos ni yw fod y ddeddf i bob pwrpas yn dileu rhannau o Ddeddf Llywodraeth Cymru,” meddai mewn araith i egluro penderfyniad Llywodraeth Cymru i herio Deddf Marchnad Fewnol San Steffan.

Roedd y Ddeddf yn cuddio newid cyfansoddiadol y tu cefn i fesurau masnachol, meddai yn y sesiwn dan ofal Canolfan Llywodraethiant Cymru, ac roedd Llywodraeth Boris Johnson wedi mynd ati’n fwriadol i guddio’u bwriad.

Yn ôl Llywodraeth Cymru all un ddeddf ddim tanseilio un arall yn slei bach.

‘Lloegr am orfodi safonau’

Fe rybuddiodd am y peryg y gallai Llywodraeth San Steffan fynd ymhellach, a bod Llywodraeth Boris Johnson wedi dangos llai o ymrwymiad na llywodraethau o’r blaen i wneud i ddatganoli weithio.

Yn ystod y tair wythnos ddiwetha, meddai Jeremy Miles, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dangos ei bod am wanhau rhai o’r safonau oedd yn bod o dan yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae yna beryg y bydd Lloegr yn torri safonau ac yn defnyddio pwysau Deddf y Farchnad Fewnol i orfodi yr Alban a Chymru i ddilyn.”

Fe soniodd am enghraifft ble’r oedd Cymru yn ystyried gwahardd naw o gynhyrchion plastig o Singapore ond Lloegr eisiau gwahardd tri – o dan y ddeddf, byddai’n rhaid i Gymru fodloni ar yr un peth, er fod gofal am yr amgylchedd wedi’i ddatganoli.

‘Rhaid cael newid sylfaenol’

Fe alwodd y Cwnsler – prif swyddog cyfreithiol Llywodraeth Cymru – am “newid sylfaenol” yn y ffordd y mae’r Deyrnas Unedig yn cael ei llywodraethu. “Does dim achos tros y status quo,” meddai.

Mae wedi galw eto am Gonfensiwn Cyfansoddiadol o bob plaid, gyda phwyslais ar gyfraniad y gymdeithas ehangach.

Fe fyddai’n rhaid i drefniant newydd, meddai, gynnwys cyfyngiadau ar sofraniaeth Senedd San Steffan a threfn gadarn gyfreithiol i rannu arian rhwng gwahanol rannau’r Deyrnas Unedig.

Ond, petai’r Alban yn gadael yr Undeb cyn hynny, roedd yn cydnabod y byddai’n rhaid dewis rhwng ailadrodd deddfau uno 1536, annibyniaeth, neu “bartneriaeth wedi ei seilio ar wir gyfartaledd”.

A’r ola’ oedd ei ddewis e, meddai.

 

Bil y Farchnad Fewnol: her gyfreithiol gam yn nes

Llywodraeth Cymru yn anfodlon â deddfwriaeth ddadleuol Llywodraeth San Steffan