Mae ffigyrau’n dangos mai ymosodiadau ar weithwyr gwasanaethau brys oedd yr erlyniad coronafeirws mwyaf cyffredin yn ystod chwe mis cyntaf y coronafeirws.
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ei fod wedi cofnodi 1,688 o’r troseddau hyn rhwng Ebrill 1 a Medi 30, yn dilyn cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf y Deyrnas Unedig.
Roedd nifer o’r rhain yn achosion o “boeri a thagu” ar heddweision, tra bod eraill wedi cael eu “cicio, brathu, a’u taro gyda gwrthrychau trwm,” meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Max Hill, fod yr ymosodiadau yn “warthus” a’u bod yn dal i ddigwydd.
“Byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i amddiffyn y rhai sydd yn ein cadw’n ddiogel yn ystod yr argyfwng hwn,” meddai.
Roedd bron i 6,500 o droseddau’n ymwneud â coronafeirws a erlynwyd yn y cyfnod hwn, yn ôl ffigyrau gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau (Ionawr 21)
Roedd 1,137 o gyhuddiadau am dorri cyfreithiau coronafeirws, gan gynnwys dyn gafodd ei ddal yn teithio rhwng siroedd yng Nghymru i ymweld â gweithiwr rhyw.
Erlynwyd 2,106 o bobol am 6,469 o droseddau’n ymwneud â choronafeirws, gyda chyfradd euogfarn o 90%, yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Mae’r data hefyd yn cynnwys nifer yr erlyniadau anghywir, yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron, a ddywedodd bod 286 wedi’u “tynnu’n ôl neu eu neilltuo” hyd at fis Hydref.