Mae gan Weinidog y Gymraeg “gydymdeimlad” â’r ddadl tros ddiogelu enwau lleoedd – ond mae hefyd yn teimlo bod yna “broblemau ymarferol” sy’n rhaid eu hystyried.

Brynhawn ddoe mi godwyd y mater yng Nghyfarfod Llawn y Senedd – cafodd hyn ei danio gan ddeiseb a ddenodd 18,000 o lofnodion.

Yn ystod y sesiwn dywedodd Dai Lloyd AoS, a gyflwynodd fesur aflwyddiannus am y mater yn 2017, bod yna “ragor y gall Lywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn yr enwau yma”.

Mae yna le i ddadlau, yn ôl yr AoS Plaid Cymru, y dylid derbyn caniatâd cyfreithiol gan gyngor cyn newid enw adeilad, a dywedodd Eluned Morgan ei bod yn sympathetig yn hyn o beth.

“A dyma ble dwi’n gweld pwynt Dai: ydyn ni’n gallu mynd ymhellach?” meddai.

“Ydyn ni’n gallu dweud – yn lle eich bod chi’n gofyn yn neis [am gydsyniad awdurdod lleol] – ydy e’n bosibl inni fynd ymhellach a deddfu a thynhau’r canllawiau statudol yna?

“Felly, mae’n rhaid imi gyfaddef bod gen i lot o gydymdeimlad yn hyn o beth, a byddwn i’n eithaf hapus i siarad gydag, efallai, aelodau’r pwyllgor a Dai, i weld beth yn union y gallwn ni ei wneud i dynhau pethau fel ein bod ni ddim yn gweld mwy o hyn yn digwydd.”

Dywedodd hefyd bod “hwn yn fater dwi yn poeni amdano” a’i bod yn cydnabod bod “rhoi enw ar dŷ yn erbyn ewyllys pobl leol yn gallu teimlo fel torri llinyn rhyngom ni a’n cymuned ni”.

Chwarae teg i’r Cardis

Ochr yn ochr â’i chydymdeimlad, roedd y Gweinidog yn awyddus i bwysleisio bod y sefyllfa ddim yn gwbl unochrog, yn ei thyb hi, yn erbyn y Gymraeg.

“Ond dwi yn meddwl ei bod hi’n werth dweud bod y dystiolaeth ry’n ni wedi ei gweld yn dangos, mewn rhai siroedd, fod mwy o geisiadau yn eu cyrraedd nhw i roi enwau Cymraeg ar dai na’r gwrthwyneb.

“Er enghraifft, yng Ngheredigion, lle, chwarae teg, maen nhw rili wedi gwneud ymdrech yn y maes yma.

“Dim ond un cais roedden nhw wedi ei gael i newid enw tŷ o’r Gymraeg i’r Saesneg, er eu bod nhw wedi cael 10 cais i newid o’r Saesneg i Gymraeg.

“Felly, mae rhywbeth yn gweithio yng Ngheredigion, ac efallai ei bod hi’n werth i ni edrych a oes yna bethau y mae pobl eraill yn gallu eu dysgu yn fanna.”