Daeth y newyddion ddoe fod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi penodi’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwch Efrydiau Cymreig a Cheltaidd.

Mae’r Athro adnabyddus yn arbenigo ar lefel ryngwladol ym maes ieithoedd lleiafrifol, sosioieithyddiaeth, polisi a chynllunio iaith a pholisi diwylliannol ac yn bwriadu plethu ei diddordebau ymchwil yng ngweithgareddau’r ganolfan.

Mewn sgwrs gyda golwg360 bu’n trafod y fraint o ddilyn olion traed ysgolheigion “arbennig a disglair,” pwysigrwydd cydraddoldeb, cydweithio, a chreu olyniaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Mae hi’n andros o fraint”

“Mae hi’n andros o fraint i gael arwain y ganolfan,” meddai’r academydd o Aberystwyth, wrth drafod ei phenodiad.

“Mae’r ganolfan yn sefydliad mor uchel ei pharch, mor bwysig i fywyd Cymru ac wedi cyfrannu cymaint yn y byd ysgolheigaidd Celtaidd a thu hwnt i hynny yn rhyngwladol.

“Rwy’n ymwybodol iawn fy mod yn dilyn olion traed ysgolheigion arbennig a disglair iawn,” meddai, “felly mae’n andros o fraint.”

Mae ei phenodiad yn dynodi carreg filltir bwysig yn hanes y Ganolfan, gan mai hi yw’r ddynes gyntaf i ddod yn Gyfarwyddwr.

“Mae yna bleser pob amser mewn cael torri tir newydd yn y ffordd yna,” meddai.

Amrywiaeth

“Dwi’n meddwl ein bod ni’n byw mewn cyfnod o newid, ble mae’n rhaid cael arweinyddiaeth sydd yn adlewyrchu amrywiaeth cymdeithas ar draws ein sefydliadau ni ac ar draws ein mudiadau ni ac ar draws ein busnesau ni.

“Mae’n bwysig iawn bod merched, pobol o gefndiroedd lleiafrifol ethnig, pobol ag anabledd ac ableddau gwahanol, pobl o ffydd gwahanol a rhywioldeb gwahanol yn cymryd rhan ym mywyd cyhoeddus Cymru.

“Dydyn ni ddim yn gwneud y daith mewn un cam yn aml. Rydyn ni’n mynd gam wrth gam tuag at sicrhau bod ein sefydliadau cyhoeddus yn adlewyrchu ein poblogaeth.

Dywedodd Yr Athro ei bod yn ymwybodol iawn o’r gefnogaeth y mae wedi ei dderbyn yn ystod ei gyrfa gan ferched a chan ddynion, sydd wedi ei hannog i geisio cyflawni ei photensial.

“Dwi hefyd eisiau sicrhau,” meddai, “fel pob person arall sy’n credu mewn cydraddoldeb, bod y math o bethau dwi’n ei wneud yn cyfrannu tuag at amrywiaeth a chydraddoldeb yn ein cymdeithas ni.”

“Eisiau rhoi stamp fy hun”

Wrth drafod ei gobeithion ar gyfer ei rôl newydd, dywedodd mai’r bwriad yw parhau gyda’r “gwaith arbenigol mae’r Ganolfan wedi adeiladu ei seiliau arni dros y degawdau.

“Ond fel pob cyfarwyddwr arall sydd wedi dod i mewn i’r swydd,” meddai, “rwyf eisiau rhoi stamp fy hun a dod ac ychydig o fy arbenigedd i mewn i weithgareddau’r Ganolfan.

Er ei bod yn cydnabod bod llawer iawn o waith presennol y ganolfan yn gorgyffwrdd gyda’i maes penodol hi o arbenigedd, dywedai y byddai’n awyddus i ddatblygu hynny ymhellach.

“Mae yna gyswllt clir rhwng y math o arbenigedd sydd gen i a’r hyn mae’r Ganolfan yn ei wneud,” meddai, “ac wedi bod yn ei wneud ers ei sefydlu.”

Cydweithio

Mae cydweithio  wedi bod yn rhan ganolog o yrfa’r academydd, boed hynny gyda Phrifysgolion, mudiadau a sefydliadu cenedlaethol a rhyngwladol.

Er hynny, teimla fod y pandemig wedi amlygu pwysigrwydd yr egwyddor hon ymhellach.

“Mae ’na newid diwylliant yn digwydd wrth i’r pandemig orfodi pobl i weithio mewn ffyrdd gwahanol a chyfathrebu mewn ffyrdd gwahanol,” meddai.

“Y prif beth dwi’n meddwl sydd yn dod o’r pandemig ac o orfod gweithio mewn sefyllfaoedd heriol yw cydweithio a gweithio mewn partneriaeth.

“Dwi’n credu mai dyna sut mae pobl yn dod drwyddi ac mae’n ffordd werthfawr iawn o weithio.

“Dwi’n mawr obeithio bydd llawer o’r newidiadau positif yna’n aros hefo ni, hyd yn oed pan gawn ni deithio a gweld ein gilydd wyneb-yn-wyneb.”

“Teimlo eich bod chi’n gallu gwneud gwahaniaeth”

Ers dros ugain mlynedd, mae’r Athro wedi arwain prosiectau ymchwil yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys cyfarwyddo gwaith Mercator sy’n gartref i Gyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau

Dywedodd mai’r cymhelliant tu ôl i’w gallu i gyflawni cymaint yw ei diddordeb gwirioneddol yn y maes.

“Mae rhywun yn teimlo mor lwcus o fod yn gallu gweithio mewn maes sydd o ddiddordeb mawr i chi – ble yr ydych chi’n teimlo eich bod chi’n gallu gwneud cyfraniad,” meddai. 

“Dwi hefyd eisiau sicrhau olyniaeth yn y meysydd yma, fel bod cenedlaethau nesaf yn cael y math o gyfleodd cefais i.”

Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones yw Cyfarwyddwr newydd y Ganolfan Uwch Efrydiau Cymreig a Cheltaidd

“Mae hi’n fraint aruthrol cael arwain y Ganolfan ar gyfnod cyffrous yn ei hanes,” meddai’r Athro.