Mae ffigyrau newydd yn dangos bod llai na chwarter y bobol dros 80 oed yng Nghymru wedi derbyn pigiad Covid-19.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 43,879 o ddosau cyntaf wedi’u rhoi i bobol dros 80 oed – 23.9% o’r 183,394 o bobol yn y grŵp oedran hwnnw.

Cadarnhaodd yr asiantaeth fod 56.4% o breswylwyr cartrefi gofal wedi cael eu pigiad cyntaf, sef cyfanswm o 9,364 allan o 16,602, tra bod 67.5% o staff cartrefi gofal wedi cael eu brechu.

Rhoddwyd 86,717 o bigiadau i weithwyr gofal iechyd ledled Cymru, yn ôl y ffigurau a ryddhawyd ddydd Iau (Ionawr 21).

Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi dweud ei fod yn “hyderus” y bydd 70% o bobl dros 80 oed, yn ogystal â 70% o breswylwyr a staff cartrefi gofal, wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn Covid-19 erbyn Ionawr 24.

Gofynnwyd i Mr Gething am y gobeithion y gyflawni’r targed yn sesiwn lawn y Senedd ddydd Mawrth (19 Ionawr), ac atebodd: “Fel mae pethau nawr, rwy’n hyderus y bydd saith o bob 10 dros 80 oed yng Nghymru wedi cael eu dos cyntaf erbyn diwedd yr wythnos hon.”

Mae hynny’n ymddangos yn dalcen caled bellach, ac un a nododd hynny oedd Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AoS, a ddywedodd “Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai 70% o bobl dros 80 oed wedi cael y pigiad erbyn diwedd y penwythnos.

“Mae hynny’n dipyn o dasg am y 3 diwrnod nesaf!

“Dylai’r Gweinidog Iechyd egluro a yw’n credu ein bod yn dal ar y trywydd iawn. Mae cyfathrebu yn allweddol i feithrin ymddiriedaeth y cyhoedd.”

Mae cyfanswm o 190,435 dos cyntaf o’r pigiad wedi’u rhoi ledled Cymru ers dechrau cyflwyno’r brechlyn ym mis Rhagfyr – 6% o’r boblogaeth.

Ac mae cyfanswm o 396 ail ddos o’r brechlyn wedi cael ei rhoi i bobol yng Nghymru.

Saith bob munud

Ddydd Mercher (Ionawr 20) dywedodd Vaughan Gething wrth gynhadledd i’r wasg fod mwy na 10,000 o bobl yn derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn yng Nghymru bob dydd – sy’n cyfateb i saith o bobl yn cael eu brechu bob munud.

“Yr wythnos hon mi fydd y rhaglen brechu yn cyflymu eto,” meddai yn y gynhadledd. “Mae cyflenwadau brechlyn Oxford/AstraZeneca wedi cynyddu cryn dipyn.

“Rydym yn disgwyl y byddwn yn derbyn dwbl y brechlynnau’r wythnos hon, o gymharu â’r pythefnos cyntaf pan oedd y brechlyn ar gael.

“Mae hynny’n golygu y bydd pobol dros 80, a rhagor o bobol sy’n byw a gweithio mewn cartrefi gofal yn cael eu brechu mewn meddygfeydd teulu.

“Rydym yn brechu bron i 1,000 o breswylwyr cartrefi gofal bob dydd.”

Dywedodd y byddai 60,000 dos arall o’r brechlyn Pfizer/BioNTech yn cael eu darparu i’w defnyddio mewn canolfannau brechu torfol yng Nghymru’r wythnos hon.

Dim “llacio sylweddol” o’r cyfyngiadau

Rhybuddiodd Vaughan Gething bobol i beidio â disgwyl “llacio sylweddol” o reolau’n coronafeirws pan byddant yn cael eu hadolygu’n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru erbyn Ionawr 29, er gwaethaf y rhaglen frechu a gostyngiad diweddar yn nifer yr achosion.

“Mae ein cyfraddau achosion yn parhau’n uchel, mae ein cyfraddau positifrwydd yn parhau’n uchel ac mae ein GIG yn dal i fod o dan bwysau sylweddol,” meddai.

Aeth Cymru i mewn i gyfyngiadau Lefel 4 – cyfyngiadau symud cenedlaethol – ar Ragfyr 20.

Dywedodd Vaughan Gething y gallai gadael Lefel 4 yn “rhy gyflym” arwain at gynnydd mewn cyfraddau Covid-19 a’r risg o lethu’r GIG.

Brechlynnau yn cael eu rhannu “mewn ffordd gymesur” ledled y DU

Yn y cyfamser, yn San Steffan, mae Gweinidog Iechyd Lloegr wedi dweud bod pob un o wledydd y Deyrnas Unedig yn derbyn cyfran deg o frechlynnau, ac nad oes unrhyw ffafriaeth tuag at Loegr.

Dyna oedd ateb Matt Hancock i gwestiwn am y mater gan Aelod Seneddol Plaid Cymru.

Yn siarad yn Tŷ’r Cyffredin mi wnaeth Ben Lake dynnu sylw at ofidion am y rhaglen frechu yng Nghymru.

Ategodd bod dros 17% o boblogaeth Cymru dros 70 oed – y lefel uchaf yn y DU – a holodd a fyddai’r wlad hon yn derbyn cyfran o frechlynnau sy’n adlewyrchu’r angen ychwanegol hwnnw.

“Mae pob un o’r tair cenedl ddatganoledig yn derbyn eu brechlynnau ar ffurf cyfrannau teg, ac ar yr un cyflymder â Lloegr,” meddai Matt Hancock yn ei ateb yntau.

“Tra bod y diffyg cyflenwad yn rhwystr i bawb, mae’r cyflenwad yn cael ei rannu mewn ffordd gymesur ledled y pedair cenedl.”

Ffigyrau diweddaraf y feirws

Mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod o 281 o achosion fesul 100,000 o bobol ledled Cymru yn yr wythnos ddiwethaf, tra bod canran y bobol sy’n profi’n bositif yn 16.7%.

Cafodd 1,153 o achosion pellach o coronafeirws a 46 o farwolaethau eu hadrodd ddydd Iau, gan fynd â chyfanswm nifer y marwolaethau yn y wlad ers dechrau’r pandemig i 4,392.

Y cyfraddau Covid-19 wythnosol diweddaraf ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol Cymru

Mae’r gyfradd wedi gostwng mewn 21 o’r 22 ardal awdurdod lleol – yr eithriad yw Gwynedd
Andrew R T Davies

Rhaglen frechu Llywodraeth Cymru yn “warth cenedlaethol”, meddai Andrew RT Davies

Y Ceidwadwyr Cymreig yn galw drachefn am benodi Gweinidog Brechlynnau