Mae dros 18,000 o bobol bellach wedi arwyddo deiseb yn galw am warchod enwau tai Cymraeg.

Cafodd ei lansio ar ddechrau’r wythnos, gan ddenu dros 5,000 o lofnodion o fewn 24 awr.

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried eu hymateb heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 17).

Mae’r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu deddf i atal newid enwau Cymraeg ar dai yng Nghymru.

Y ddeiseb

“Mae ‘na batrwm hyd a lled Cymru lle mae perchnogion newydd yn newid enwau tai i’r Saesneg,” meddai testun y ddeiseb.

“[Does dim] rhaid mynd yn bell i weld tystiolaeth! Mae’r wlad yn colli ei etifeddiaeth mewn camau bychain. Rhaid atal hyd i’r cenedlaethau sydd i ddod, beth bynnag eu hiaith.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n parhau i gasglu gwybodaeth i weld pa gamau sydd angen eu cymryd, ac y gallai hynny gynnwys deddfu.

“O fewn deuddydd, mi oedd y ddeiseb wedi pasio’r trothwy oedd ei angen i fynd o flaen Pwyllgor Deisebau’r Senedd,” meddai Robin Aled Jones, sy’n gyfrifol am greu’r ddeiseb, wrth BBC Radio Cymru.

“Dw i’n gobeithio y bydd y ddeiseb yn cael ei phasio ymlaen fel bod o’n cael pleidlais yn y Senedd ac yn dod yn ddeddf gwlad na chaiff pobol newid enwau tai heb fod o’n mynd o flaen pwyllgorau lleol ac yn rhoi diwedd i’r enwau gwirion ’ma rydan ni’n weld.”

Cefndir

Mae Dai Lloyd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, eisoes wedi rhoi cynnig ar gyflwyno deddf i warchod enwau Cymraeg.

Rhai blynyddoedd yn ôl, ceisiodd e gyflwyno Mesur i ddiogelu enwau lleoedd – o bob iaith – yng Nghymru ond yn 2017, cafodd y cynnig ei wrthod.