Mae pobol groenddu bum gwaith a hanner yn fwy tebygol o gael eu llofruddio na phobol â chroen gwyn ers troad y ganrif, yn ôl ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Mae pobol o dras Asiaidd ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu lladd na phobol â chroen gwyn, meddai Sefydliad Troseddeg y brifysgol.
Maen nhw’n galw ar y Swyddfa Ystadegau Gwladol a heddluoedd i gyfrifo data mwy “ystyrlon” er mwyn helpu i ddyrannu adnoddau’r heddlu’n well.
Yn ôl yr Athro Lawrence Sherman, cyd-awdur adroddiad yr ymchwilwyr, mae yna “anghydraddoldeb hiliol sylweddol” wrth asesu’r risg o bobol o gefndiroedd gwahanol yn cael eu llofruddio yng Nghymru a Lloegr.
“Mae’r pandemig wedi rhoi cwrs dwys byr i bobol mewn ystadegau,” meddai.
“Mae’n cynnig cyfle i gyflwyno pob math o ddata mewn ffyrdd sy’n fwy ystyrlon i’r bobogaeth, yn ogystal â’r rhai sydd ar y rheng flaen o ran atal.”
Cyfraddau fesul poblogaeth o 100,000
Mae’r ymchwilwyr wedi defnyddio’r un dull i fesur yr ystadegau â gwyddonwyr sy’n cyfrifo cyfraddau marwolaethau coronafeirws – fesul 100,000 o bobol.
Yn ôl yr ymchwilwyr, dyma’r cymhariaeth gyntaf ar sail grwpiau ethnig fesul 100,000 o bobol yng ngwledydd Prydain.
Mae’r cyfraddau ar gyfer pobol â chroen gwyn a phobol o gefndiroedd Asiaidd wedi aros yn gyson ers troad y ganrif gydag oddeutu un ym mhob 100,000 o bobol â chroen gwyn yn cael ei lofruddio, a dau ym mhob 100,000 o bobol Asiaidd.
Ond mae’r gyfradd ar gyfer pobol groenddu wedi codi’n sylweddol dros y ddau ddegawd diwethaf – bron i 10 ym mhob 100,000 yn 2001.
Fe wnaeth y gyfradd ostwng o 69% rhwng 2001 a 2012 i dri ym mhob 100,000 erbyn 2013.
Ond fe gododd saith gwaith yn gynt wedyn na’r gyfradd ar gyfer pobol â chroen gwyn – i fwy na phump ym mhob 100,000 y llynedd.
O ran pobol 16 i 24 oed, mae pobol groenddu yn dal ddeg gwaith a hanner yn fwy tebygol o gael eu llofruddio na phobol â chroen gwyn.
Ond mae data 2018-19 yn gosod y ffigwr hwnnw 24 gwaith yn fwy ar gyfer pobol groenddu ifanc na phobol ifanc â chroen gwyn.
‘Lefelau risg newidiol yn rhan hanfodol o ddulliau atal’
“Mae angen tystiolaeth ddibynadwy i blismona, ac mae lefelau risg newidiol yn rhan hanfodol o ddulliau atal wrth blismona,” meddai’r Athro Lawrence Sherman.
“Mae ein canfyddiadau cychwynnol yn datgelu anghydraddoldeb o ran lefelau risg ar lefel genedlaethol, ond fe allen nhw fod dipyn yn uwch neu’n is mewn ardaloedd lleol.
“Byddem yn annog heddluoedd i gynhyrchu eu cyfrifiadau eu hunain o ran cyfraddau llofruddiaeth fesul 100,000.
“Mae ystadegau syml yn dangos bod y risg o ddioddef llofruddiaeth ymhell o fod yn gydradd.
“Mae angen dadansoddi mwy o ddata o’r natur yma i helpu i ddyrannu adnoddau’r heddlu, ac i hybu sgwrs ar sail mwy o ffeithiau gyda chymunedau ledled y wlad.”