Mae’r cwmni awyrennau easyJet wedi teimlo effaith y coronafeirws wrth gofnodi eu colled ariannol gyntaf erioed.

£1.27bn yw’r ffigwr, yn ôl y cwmni a gafodd ei sefydlu chwarter canrif yn ôl.

Mae nifer teithwyr y cwmni wedi haneru i 48.1m yn sgil gwaharddiadau teithio a ddaeth i rym yn dilyn ymlediad Covid-19 ar draws y byd.

Dywed y cwmni nad ydyn nhw’n disgwyl i fwy nag 20% o wasanaethau sydd wedi’u trefnu i gael eu cynnig rhwng chwarter cynta’r flwyddyn a mis Medi nesaf wrth i’r byd aros am ail don o’r feirws.

Fe wnaeth y cwmni elw o £430m y flwyddyn ddiwethaf, ond roedd eu colledion cyn treth eleni’n £835m yn erbyn rhagolygon o elw o £427m y flwyddyn gynt, a hynny wedi’i ddisgwyl.

Ymateb easyJet

Mae Johan Lundgren, prif weithredwr easyJet, yn dweud bod y cwmni wedi ymateb “yn gadarn ac yn benderfynol” i’r argyfwng, ac yn croesawu’r posibilrwydd o gael brechlyn yn erbyn y coronafeirws.

Dywed fod gan y cwmni y gallu “i gynyddu’n gyflym pan ddaw’r galw yn ôl”.

Dywed y cwmni fod peth galw wedi bod dros yr haf am deithiau dramor ond fod mesurau cwarantîn a gafodd eu cyflwyno ym mis Medi wedi lleihau’r galw unwaith eto, yn ogystal â chwalu hyder pobol wrth deithio.

Cafodd y cwmni ddeg gwaith mwy o ddiddordeb mewn teithiau i ynysoedd Sbaen ar ôl i gyfyngiadau gael eu llacio gan Lywodraeth Prydain fis diwethaf.

Cynigiodd y cwmni 180,000 o seddi ychwanegol o fewn 24 awr er mwyn ateb y galw.

Ond lleiahodd y galw unwaith eto ar ddechrau’r ail gyfnod clo dros dro yn Lloegr ar Dachwedd 5.

Roedd refeniw blynyddol y cwmni i lawr 53% i £3bn, i lawr o £6.4bn y flwyddyn gynt.

Mae’r cwmni wedi torri traean oddi ar eu costau, ac mae eu dyled bellach yn £1.1bn.