Mae ffigurau sydd wedi’u rhoi gan Lywodraeth Cymru i’r Ceidwadwyr Cymreig yn dangos bod 53 o bobol wedi cael gadael yr ysbyty o fewn pythefnos ar ôl cael prawf coronafeirws positif i fynd i gartrefi gofal ar ddechrau’r pandemig.

Wrth ymateb i gais gan Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething fod cyfanswm o 167 o gleifion wedi cael gadael yr ysbyty i fynd i gartrefi gofal ar ôl prawf positif rhwng Mawrth 1 a Mai 31.

Cafodd ychydig yn llai na thraean ohonyn nhw eu rhyddhau o fewn pythefnos ar ôl y prawf positif, ac roedden nhw ymhlith 1,729 o bobol a gafodd eu symud rhwng Mawrth a Mai.

Yn ôl Andrew RT Davies, mae’n “bosib fod y feirws wedi’i gyflwyno i un o’r lleoliadau mwyaf bregus yng nghymdeithas Cymru ar raddfa eang”.

“Yn drist iawn, mae’r ffigurau hyn yn dangos nad oedd Llywodraeth Cymru’n ymwybodol o’r effaith niweidiol y gallai’r fath benderfyniad fod wedi’i chael ac mae’n bwysig fod yr ymchwiliad yn y dyfodol yn archwilio’n llwyr y rhesymau pam fod hyn wedi digwydd ac yn sicrhau cyfiawnder i deuluoedd y rhai a allai fod, yn drasig iawn, wedi colli eu hanwyliaid.

“Mae pryderon sylweddol o hyd o ran dull Llywodraeth Cymru o ran cartrefi gofal ac rydym unwaith eto’n ailadrodd ein galwadau ar i’r rhai mwyaf bregus yn y gymdeithas gael eu gwarchod wrth dargedu ymyrraeth ar raddfa fwy, megis sgrinio staff sy’n wynebu cleifion yn gyson.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.