Mae disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd Llanfair Caereinion wedi lleisio eu barn ar gynigion i uno ysgolion y dref.

Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu cau Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfair Caereinion ac Ysgol Uwchradd Caereinion, gan sefydlu ysgol newydd bob oed ar y ddau safle presennol o fis Medi 2022.

Ar hyn o bryd, mae 162 o ddisgyblion yn yr ysgol gynradd a 465 o ddisgyblion yn yr ysgol uwchradd.

Roedd Cabinet y Cyngor wedi cymeradwyo’r cynllun ddiwedd mis Medi.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Mawrth (Tachwedd 24).

Digwyddiad rhithiol

Yr wythnos hon, cafodd disgyblion o Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfair Caereinion ac Ysgol Uwchradd Caereinion wahoddiad i ddigwyddiad rhithiol er mwyn lleisio’u barn ar y cynllun.

“Hoffwn i ddiolch i’r disgyblion am rannu eu barn ar ein cynnig i uno’r ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd yn Llanfair Caereinion i greu ysgol newydd bob oedran,” meddai’r Cynghorydd Phyl Davies, yr Aelod Cabinet dros faterion Addysg ac Eiddo.

“Cawsom sesiwn rhagorol gyda’r disgyblion o’r ysgol gynradd a chawsom farn gall gan grŵp da iawn o blant, a rhannodd myfyrwyr yr ysgol uwchradd eu hamser a’u barn yn hael.

“Mae’n bwysig ein bod yn clywed llais ein dysgwyr, a bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i’w barn cyn i ni benderfynu unrhyw beth.”