Mae capsiwl SpaceX gyda phedwar gofodwr wedi cyrraedd yr Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS) – eu cartref newydd tan y gwanwyn.

Dociodd capsiwl Dragon yn gynnar fore heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 17), yn dilyn taith 27 awr gwbl awtomataidd o Ganolfan Ofod Kennedy NASA.

“O, am lais da i’w glywed,” meddai Kate Rubins, gofodwyr yr orsaf ofod, pan wnaeth Mike Hopkins o’r Dragon gysylltu dros radio am y tro cyntaf.

Dyma’r ail waith i gwmni SpaceX fentro i’r gofod, ond dyma’r tro cyntaf i gwmni Elon Musk ddarparu criw am arhosiad llawn o hanner blwyddyn mewn gorsaf.

Bydd y tri Americanwr ac un gofodwr o Japan yn aros yn y labordy nes bydd criw yn dod i gymryd eu lle ym mis Ebrill.

Ymunodd Mike Hopkins a’i griw — Victor Glover, Shannon Walker a Soichi Noguchi — â dau ofodwr o Rwsia ac un Americanwr a oedd wedi hedfan i’r orsaf ofod fis diwethaf o Kazakhstan.

Victor Glover yw’r gofodwr Affricanaidd-Americanaidd cyntaf i symud i’r orsaf am gyfnod hir.

Ar gyfer lansiad ddydd Sul (Tachwedd 15), cadwodd NASA westeion i isafswm oherwydd y pandemig coronafeirws, a bu’n rhaid i Elon Musk gadw draw hyd yn oed, ar ôl trydar ei fod “yn debygol” o fod wedi’i heintio.

Roedd Gwynne Shotwell, llywydd SpaceX, yn bresennol yn ei absenoldeb.

“Mae’n edrych yn anhygoel,” meddai Mission Control o bencadlys SpaceX yn Hawthorne yng Nghaliffornia.

“Mae’n edrych yn anhygoel y fan hyn hefyd,” atebodd Mike Hopkins.