Gall hylif golchi ceg ladd y coronafeirws o fewn 30 eiliad, yn ôl ymchwil gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Daw’r cyhoeddiad ar drothwy treialon clinigol ar gyfer y defnydd o hylif golchi ceg dros-y-cownter i geisio lleihau lefelau Covid-19 mewn poer.

Yn ôl adroddiad y gwyddonwyr, gallai hylifau golchi ceg sy’n cynnwys o leiaf 0.07% o cetypyridiniwm clorid (CPC) helpu i frwydro yn erbyn y feirws.

Dydy’r adroddiad ddim wedi cael sêl bendith eto, ond fe ddaeth adroddiad tebyg yr wythnos ddiwethaf i’r casgliad bod hylifau golchi ceg yn effeithiol wrth leihau peryglon Covid-19 trwy’r geg.

Arbrawf

Aeth gwyddonwyr ati i ail-greu’r llwybr o’r trwyn i’r gwddf a defnyddio hylifau golchi ceg megis Dentyl.

Bydd y treialon nesaf yn mesur pa mor effeithiol yw hylifau golchi ceg wrth leihau’r feirws ym mhoer cleifion coronafeirws yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae disgwyl i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi’n gynnar y flwyddyn nesaf.

Dentyl yw’r unig frand sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwil 12 wythnos hyd yn hyn.

Yr Athro David Thomas sy’n arwain yr ymchwil.

“Tra bod yr hylifau golchi ceg hyn yn dileu’r feirws yn effeithiol iawn yn y labordy, mae angen i ni weld a ydyn nhw’n gweithio mewn cleifion a dyma ddiben ein hastudiaeth glinigol barhaus,” meddai.

“Mae’n bwysig nodi na fydd yr astudiaeth yn rhoi unrhyw dystiolaeth uniongyrchol i ni o ran trosglwyddo’r feirws rhwng cleifion, a byddai angen math gwahanol o astudiaeth ar raddfa lawer mwy [ar gyfer hynny].

“Bydd yr astudiaeth glinigol barhaus, fodd bynnag, yn dangos pa mor hir mae unrhyw effeithiau’n para, gan ddilyn defnydd un tro o hylif golchi ceg mewn cleifion sydd â Covid-19.”

Angen rhagor o ymchwil

Mae’n dweud bod angen mwy o ymchwil, er bod yr arwyddion cynnar “yn galonogol ac yn gam positif”.

“Mae angen i ni ddeall a oes modd ailadrodd effaith hylifau golchi ceg dros-y-cownter ar feirws Covid-19 yn y labordy mewn cleifion, ac rydym yn edrych ymlaen at gwblhau ein treialon clinigol yn gynnar yn 2021,” meddai.

Yn ôl Dr Nick Claydon, arbenigwr yn y maes, gallai’r ymchwil fod yn “werthfawr iawn”.

“Os yw’r canlyniadau positif yn cael eu hadlewyrchu yn nhreialon clinigol Prifysgol Caerdydd, gallai hylifau golchi ceg â CPC megis Dentyl sydd wedi’u defnyddio yn yr astudiaeth ‘in-vitro’ ddod yn ychwanegiad pwysig at arferion pobol, ynghyd â golchi dwylo, cadw pellter cymdeithasol a gwisgo mygydau, nawr ac yn y dyfodol.”