Mae’r Mudiad Meithrin wedi lansio cynllun i geisio denu prentisiaid newydd er mwyn ceisio gwella amrywiaeth o fewn ei staff.

Bydd y brentisiaeth 18 mis ar agor i bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, gyda’r bwriad o gynnig gwaith llawn amser yn y pen draw.

Drwy’r cynllun daw’r cyfle i unigolion ddatblygu yn broffesiynol mewn amrywiaeth o feysydd, ennill cymhwyster cydnabyddedig, yn ogystal â’r profiad o gyfrannu at waith arbenigol blynyddoedd cynnar a gofal cyfrwng Cymraeg y Mudiad.

Mae gan y Mudiad a lansiwyd yn 1971 dros 1,000 o ddarpariaethau blynyddoedd cynnar ledled Cymru.

“Newid diwylliannol”

“Gobeithiwn, drwy’r cynllun prentisiaeth hwn, y gwelwn ni gychwyn ar newid diwylliannol sylweddol o fewn ein Mudiad, gan hefyd arwain y ffordd i ysgogi sefydliadau gofal plant a mudiadau Cymraeg eraill,” meddai Helen Williams, Pennaeth Tîm Hyfforddi, Dysgu a Datblygu’r Mudiad.

‘Unioni’r dangynrychiolaeth’

“Ers lawnsio ein Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn 2019, mae’r Mudiad wedi bod yn ystyried sut i unioni’r dangynrychiolaeth o unigolion Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig yn ein gweithlu,” meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin.

“Rydym wedi ystyried y camau y gallwn eu cymryd i geisio arwain at yr amrywiaeth ehangaf o bobl yn cael eu cyflogi ac yn arwain maes gofal plant, y blynyddoedd cynnar ac addysg Gymraeg yn y blynyddoedd i ddod.”