Mae Cylch yr Iaith wedi beirniadu cynllun gwerth £100m gan gwmni Conygar StenaLine i adeiladu marina, gwesty a thros 300 o dai gwyliau yng Nghaergybi, Ynys Môn.
Cafodd y datblygiad ganiatâd cynllunio amlinellol gan Bwyllgor Cynllunio’r cyngor sir yn 2014, a bydd y pwyllgor hwnnw yn ystyried y cais llawn fis Ebrill eleni.
Mae’r cynlluniau yn cynnwys 326 o gartrefi gwyliau, adeiladau at ddefnydd masnachol a hamdden, gwesty, canolfan ieuenctid newydd, ardal traeth cyhoeddus, amgueddfa forwrol newydd a chanolfan ymwelwyr.
Ond mae Cylch yr Iaith yn gwrthwynebu’r cynllun.
“Nid cannoedd o dai gwyliau a marina ydi’r math o ddatblygiad sy’n mynd i ddatrys problemau economaidd ac argyfwng iaith Môn,” meddai’r mudiad mewn datganiad.
“Byddai’r cynllun yn dwysáu’n sefyllfa trwy gynyddu’r ddibyniaeth ar ordwristiaeth sy’n gwrthweithio cynaliadwyedd cymunedau. Nid dyma’r ateb i gymunedau’r sir.”
“Mae’n ymddangos bod y cynllun hwn yn codi ei ben rŵan oherwydd bod Cynllun Wylfa Newydd wedi methu a phorthladd Caergybi yn dioddef o ganlyniad i Brexit.”
“Hyrwyddo a buddsoddi mewn mentrau busnes bychan”
Ychwanegodd Cylch yr Iaith: “Dyma enghraifft berffaith o’r hyn nad ydi Môn ei angen, a gobeithio na fydd cynghorwyr Môn yn cael eu hudo gan addewidion gwag am ‘ffyniant’ i’r rhan hon o’r ynys.
“Dydi troi rhan o’r arfordir yn ganolfan i bobol gefnog o’r tu allan hamddena, ddim y ffordd ymlaen i ddatrys problemau economaidd yr ynys.
“Byddai’n rheitiach canolbwyntio ar hyrwyddo a buddsoddi mewn mentrau busnes bychan a chanolig ac mewn prosiectau ynni adnewyddol a chreu swyddi gwyrdd, a chreu strwythurau cymhorthdal a chymorth technegol ar eu cyfer.”
“Mae’r sir yn dioddef yn ddifrifol o ordwristiaeth yn barod”
Aeth Cylch yr Iaith ymlaen i ddweud: “Mae’r sir yn dioddef yn ddifrifol o ordwristiaeth yn barod, ac mae galwad ar Lywodraeth Cymru i reoli ail gartrefi a thai gwyliau tymor-byr oherwydd bod y sefyllfa’n argyfyngus mewn llawer o gymunedau gyda phobl leol yn methu fforddio prynu na rhentu tŷ yn eu hardal eu hunain.
“Mae angen newid Deddf Gynllunio Gwlad a Thref i gyfyngu ar eu niferoedd mewn cymunedau, a chael cymorth i drigolion ein bröydd cael cartref yn eu cynefin.
“Dyma’r ffordd ymlaen i Gyngor Môn, nid cefnogi cynlluniau mawr sy’n tanseilio strwythur a gwead cymdeithasol ein cymunedau.”