Mae preswylwyr cartrefi yng Nghymru sydd wedi eu taro gan y llifogydd diweddar yn gymwys i dderbyn rhwng £500 a £1,000.
Yn dilyn Storm Christoph yn gynharach wythnos yma cafodd dros 150 o adeiladau ledled y wlad eu heffeithio gan lifogydd.
Cwympodd mwy na mis o law ar gyfartaledd yn y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghymru, a bu rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi mwy na 40 o rybuddion llifogydd.
Cafodd cartrefi eu gwagio ym Mangor-is-y-coed a’r Orsedd ger Wrecsam a Sgiwen yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dilyn digwyddiadau difrifol yno.
‘Ymateb cryf a chyflym’
“Gall llifogydd mawr fel y rhain fod yn ddinistriol i’r cymunedau hynny y maent yn eu taro, ac mae’r golygfeydd ofnadwy a welir mewn ardaloedd ledled Cymru yn haeddu ymateb cryf a chyflym i’r cartrefi hynny yr effeithir arnynt,” meddai Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.
“Mae hyn yn fwy ysgytwol fyth pan ystyriwn fod y rhai sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi dros dro, neu sydd wedi gweld eu cartrefi a’u heiddo wedi’u difrodi gan lifddwr, wedi gorfod gwneud hynny yn ystod yr anawsterau a achosir gan y coronafeirws.
“Dyna pam rydym am roi cymorth i bobl sydd wedi dioddef llifogydd yn eu cartrefi i dderbyn taliadau o rhwng £500 a £1,000, yn debyg i’r cymorth a roddwyd i aelwydydd yn ystod stormydd Ciara a Dennis y llynedd.”
Awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am wneud y taliadau cymorth ar ran Llywodraeth Cymru.
Dyma’r un lefel o gymorth ag a ddarparwyd i gartrefi’n dilyn y llifogydd a achoswyd gan stormydd Dennis a Ciara y llynedd.
‘Llifogydd yn fwy tebygol’
Diolchodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, i’r awdurdodau lleol, asiantaethau, gwirfoddolwyr a’r gwasanaethau am eu hymateb i Storm Christoph yn ystod y dyddiau diwethaf.
“Mae ymdrechion cydweithredol sefydliadau a gwasanaethau ledled y wlad, llawer ohonynt yn gweithio dros nos i sicrhau bod aelodau o’r cyhoedd yn ddiogel, wedi bod yn rhyfeddol.
“Y realiti trist yw wrth i ni wynebu’r bygythiad parhaus a achosir gan newid eithafol yn yr hinsawdd, yw y bydd llifogydd mawr a digwyddiadau tywydd niweidiol fel y rhain yn fwy tebygol, nid llai.”