Fe fu’n rhaid i tua 80 o bobl adael eu cartrefi yn dilyn llifogydd yn ardal Sgiwen ger Castell-nedd neithiwr (nos Iau, Ionawr 21).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i helpu i symud trigolion o wyth stryd yn yr ardal bnawn ddoe yn dilyn glaw trwm. Roedd Storm Christoph wedi effeithio rhannau helaeth o Gymru ddoe (Ionawr 21).

Dywed y gwasanaethau brys nad oedd unrhyw un wedi’u hanafu ac mae pawb sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi bellach wedi dod o hyd i loches ond maen nhw’n apelio ar bobl i osgoi’r ardal am y tro.

Mae’n debyg bod dwr wedi llifo i gartrefi pobl yn ardal Parc Goshen.

Roedd timau’r gwasanaethau brys yno drwy gydol y nos yn delio gyda’r sefyllfa.

Dywedodd Cyngor Castell-nedd a Phort Talbot bod canolfan lleol ar gael ar gyfer y trigolion a bod mesurau mewn lle i ddiogelu yn erbyn Covid-19.

“Ein prif flaenoriaeth yw parhau i gefnogi’r trigolion sydd wedi gadael eu cartrefi a sicrhau bod gan eraill rywle diogel i fynd os yw’n angenrheidiol symud rhagor o bobl,” meddai prif weithredwr y cyngor Karen Jones.