Mae disgyblion ar draws y wlad wedi anadlu anadl o ryddhad.

Daw hynny wedi i Lywodraeth Cymru gadarnhau ddoe (Ionawr 20) mai athrawon fydd yn pennu graddau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch eleni, yn hytrach nag cynnal asesiadau allanol ffurfiol.

Roedd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, eisoes wedi cael gwared ar arholiadau diwedd blwyddyn 2021, yn sgil y pandemig.

Bellach, mae hi wedi cyhoeddi y bydd myfyrwyr yn derbyn graddau o’u hysgol neu goleg yn seiliedig ar waith maen nhw’n ei gwblhau dros gyfnod eu cwrs.

Cafodd y penderfyniad ei groesawu gan ddisgyblion ar sail tegwch… ac ar sail rhai materion allgyrsiol!

“Oni wedi bod yn poeni gymaint am hyn”

“Oni wedi bod yn poeni gymaint am hyn… felly dwi’n falch bod nhw wedi cyhoeddi hyn rŵan,” meddai Begw Elain, o Ddyffryn Nantlle, sy’n ddisgybl blwyddyn 11 yn Ysgol Brynrefail.

“Mae pobl ifanc yn mynd drwy gymaint ar hyn o bryd – ymdopi hefo’r lockdown a bob dim arall, felly maen nhw wedi tynnu llwyth o’r stress i ffwrdd.

“Rŵan, fedrwn ni ganolbwyntio ar drio cwblhau bob tasg mae’r athrawon yn ei osod i ni,” meddai, “a chymryd bob wythnos fel mae’n dod.

“Hefyd, oni’n poeni bod yr asesiadau am fod yr un adeg a’r Euros – felly dwi’n falch!”

Begw Elain o Ddyffryn Nantlle

“Mae o’n wrong bod nhw wedi disgwyl mor hir”

Mae’r cyhoeddiad yn rhyddhad i Cerys Elen o Fethesda hefyd, er y teimlai bod y cyhoeddiad wedi dod braidd yn hwyr.

“Mae o’n rong bod nhw wedi disgwyl mor hir,” meddai’r disgybl blwyddyn 11 o Ysgol Dyffryn Ogwen.

“Dylai nhw wedi gwneud y cyhoeddiad cyn ’Dolig i bawb gael ei brosesu fo a meddwl – tymor newydd, dechrau newydd.

“Doedd o ddim yn neis… ddim yn gwybod be oeddech chdi fod i wneud, adolygu, gwneud gwaith, gadael o a gwario mwy o amser ar waith ysgol? Roedd o dipyn bach yn confusing.

“Y munud ddoth o allan, oedd o’n fwy o foment lle oni’n meddwl – reit dwi’n gwybod be dwi angen gwneud rŵan, dwi’n gwybod be sydd yn mynd i ddigwydd ac mae o’n rhyddhau fi fwy i allu canolbwyntio ar waith cwrs.

“Mi fydd hynny’n dangos i gyflogwyr, i Brifysgolion ac i’r chweched, mod i’n allu cadw safon fy ngwaith i fyny am amser hi a thrio fy ngorau dros gyfnod hir o amser.”

Cerys Elen o Fethesda

“Y ffordd fwyf teg o roi graddau eleni”

“I fod yn onest, rwy’n hapus â’r cadarnhad ddoe a fi’n credu fod pawb yn falch,” meddai Elin Mai Williams o Aberystwyth, sydd yn ddisgybl Blwyddyn 13 yn Ysgol Penweddig.

Elin Mai Williams o Aberystwyth

“Ni’n fwy ymwybodol o’r sefyllfa ac yn gwybod be allwn ni anelu ato.

“Roedd pawb yn dechrau danto achos oedden nhw ddim yn siŵr os oedd pwrpas i wneud y gwaith – ond nawr mae pawb yn glir.

“Fydde fe ddim yn deg ac rwy’n credu, ni wedi cael cam ar hyn o bryd o fod yn gweithio gartref achos mae rhai llai ffodus nag eraill a heb yr adnoddau iawn – felly dwi’n meddwl fod hyn y ffordd fwyaf teg o roi graddau eleni.”

Nifer o bobol ifanc wrth ddesgiau

Cadarnhau mai ysgolion a cholegau fydd yn dyfarnu graddau disgyblion eleni

“Credwn bellach mai dyma’r ffordd orau o ddyfarnu graddau o dan amgylchiadau eithriadol y pandemig,” medd Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru
Dosbarth mewn ysgol

Ymgyrchu i gael gwared ar asesiadau Lefel A a TGAU – dros 6,000 yn arwyddo deiseb

Meddwl am unrhyw asesiadau allanol yn “ysgogi panig” meddai disgybl Lefel A

Dim arholiadau yng Nghymru y flwyddyn nesaf

Bydd gwaith cwrs ac asesiadau’n disodli arholiadau TGAU a Safon Uwch, meddai Kirsty Williams