Mae Cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, John Apter, wedi dweud ei fod yn “apelio’n daer” ar y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio i flaenoriaethu swyddogion yr heddlu ar gyfer brechiadau coronafeirws.

Wrth siarad ar Good Morning Britain, dywedodd John Apter: “Gadewch i mi roi hyn yn ei gyd-destun: dy’n ni ddim yn trio gwthio ein ffordd i flaen y ciw.

“Rhaid brechu’r bobol fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, a chydweithwyr o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond mae fy nghydweithwyr yn agored i niwed. Nid ydynt yn ddiogel rhag y feirws hwn.

“Yn yr wythnos ddiwethaf yn unig, rydym wedi colli cydweithwyr i’r feirws hwn.”

Ychwanegodd bod yn rhaid i swyddogion yr heddlu fod mewn cysylltiad agos gyda phobol, wrth ymdrin â nhw neu eu harestio.

“Problem go iawn”

“Rwy’n apelio ar y pwyllgor brechu i ystyried fy nghydweithwyr, yn ogystal ag athrawon a diffoddwyr tân … mae fy nghydweithwyr mewn perygl.

“Hefyd mae mwy a mwy ohonyn nhw i ffwrdd yn sâl gyda Covid-19, neu maen nhw’n gorfod hunanynysu, felly mae llai ohonyn nhw ar gael i ddelio â’r pwysau sydd gennym ac mae’n broblem go iawn i ni.”