Mae’r arbenigwr ar afiechydon heintus yn yr Unol Daleithiau wedi dweud ei fod yn “rhyddhad” cael cefnogaeth gweinyddiaeth yr Arlywydd newydd Joe Biden wrth i’r wlad geisio mynd i’r afael a Covid-19.

Daeth sylwadau Dr Anthony Fauci yn ystod ail ddiwrnod Joe Biden wrth y llyw, gyda’r pwyslais ar gyflymu’r ymateb i’r pandemig.

Mae mwy na 400,000 o bobl yn yr Unol Daleithiau bellach wedi marw o ganlyniad i’r coronafeirws gyda’r ffigurau’n gwaethygu wrth i’r arlywydd newydd gymryd yr awenau.

Mewn cynhadledd newyddion roedd Dr Anthony Fauci wedi pwysleisio na fyddai rhagor o “negeseuon cymysg” fel y cafwyd yn ystod cyfnod y cyn-Arlywydd Donald Trump.

Roedd wedi cydnabod y gallai fod yn anodd ar adegau i weithio gyda Donald Trump, a oedd yn ceisio tanseilio difrifoldeb y pandemig, ac yn gwrthod annog pobl i wisgo mygydau.

“Roedd hi’n amlwg iawn bod pethau wedi cael eu dweud oedd yn anghyfforddus oherwydd doedden nhw ddim yn seiliedig ar ffeithiau gwyddonol,” meddai  Dr Anthony Fauci.

Ychwanegodd nad oedd yn cael “unrhyw bleser” o orfod mynd yn groes i Donald Trump.

Yn ystod ei ymgyrch arlywyddol roedd Joe Biden wedi rhoi addewid mai Dr Anthony Fauci. 80, fyddai ei brif ymgynghorydd meddygol ar ôl iddo ddod i’r Tŷ Gwyn.

Un o’r prif flaenoriaethau oedd trafod y pandemig gyda Sefydliad Iechyd y Byd. Roedd Joe Biden wedi ail-ymuno a’r sefydliad ar ôl i Donald Trump dynnu’r Unol Daleithiau allan o’r grŵp oherwydd y ffordd roedd wedi delio gyda Tsieina yn ystod dyddiau cynnar y pandemig.

Dywedodd Dr Anthony Fauci wrth y grŵp y byddai’r Unol Daleithiau yn ymuno a’i ymdrechion i ddosbarthu’r brechlyn i wledydd tlotaf y byd.

Mae Joe Biden hefyd wedi amlinellu cyfres o orchmynion gweithredol er mwyn arafu lledaeniad y firws a hybu rhaglen frechu’r wlad.