Mae dros 50,000 o bobol wedi marw o’r coronafeirws yn yr Almaen, gyda chynnydd cyflym wedi bod yn nifer y meirw yn yr wythnosau diwethaf.
Ond mae’r nifer o bobol sy’n cael eu heintio wedi gostwng.
Mae’r awdurdodau wedi cyhoeddi fod 859 wedi marw o’r corona yn y 24 awr ddiwethaf, gan gynyddu’r cyfanswm i 50,642.
Fe brofodd y wlad nifer gymharol fechan o farwolaethau yng nghyfnod cynnar y pandemig, a gallu llacio cyfyngiadau yn gyflym.
Ond bu llawer mwy o bobol yn cael eu heintio yn ystod yr Hydref a’r Gaeaf.
A bu dros 1,000 o farwolaethau dyddiol yn ystod yr wythnosau diwethaf, mewn gwlad gyda phoblogaeth sy’n 83 miliwn.
40,000 oedd wedi marw yn yr Almaen oherwydd y corona ar Ionawr 10, gan olygu fod dros 10,000 wedi marw mewn llai na phythefnos ers hynny.
Ond wrth edrych ar y darlun drwyddi draw yn Ewrop, mae mwy wedi marw yng ngwledydd Prydain, Ffrainc a Sbaen nag yn yr Almaen, er bod gan y gwledydd hynny lai o boblogaeth.