Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi sicrhau grant gwerth £8.75m i droi Pont Gludo Casnewydd, a adeiladwyd yn wreiddiol yn 1906, yn atyniad i dwristiaid.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cyfrannu’r arian er mwyn atgyweirio’r bont restredig Gradd 1, a bydd y cyngor hefyd yn cyfrannu £1m at y prosiect.

Bydd y gwaith adnewyddu yn galluogi ymwelwyr i reidio’r gondola a chroesi’r rhodfa sydd 55 metr o uchder.

Hefyd bydd canolfan newydd yn adrodd hanes y bont  drwy rannu straeon y bobol gynlluniodd ac adeiladodd y bont.

‘Eicon Casnewydd’

“Mae’r Bont Gludo yn eicon yng Nghasnewydd,” meddai’r Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd.

“Mae’n rhan allweddol o orffennol diwydiannol Cymru, un y mae angen i ni ei chadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol fel y gallwn adrodd straeon yr hanes.

“Gallai gwaith datblygu’r ganolfan ymwelwyr newydd greu cyfleoedd swyddi a gwirfoddoli, a gwella enw da’r ddinas fel cyrchfan i ymwelwyr, a bydd y ddau beth yma’n dod â manteision economaidd ehangach i Gasnewydd.”

‘Diogelu’r bont’

Mae Andrew White, cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, yn falch o fedru “diogelu’r bont ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

“Bydd y buddsoddiad hwn, y trydydd mwyaf a wnaethom erioed yng Nghymru, yn helpu i gynnal swyddi, cefnogi twf economaidd, rhoi hwb i dwristiaeth a chreu ymdeimlad o falchder yn nhreftadaeth unigryw Casnewydd,” meddai.

Dros y 26 mlynedd diwethaf mae’r Loteri Genedlaethol wedi buddsoddi mwy na £410 miliwn yng Nghymru.

“Ar ôl blwyddyn o roi cymorth brys i sefydliadau treftadaeth Cymru y mae Covid-19 wedi effeithio arnynt, byddwn yn ailagor ceisiadau am grantiau prosiect y Loteri Genedlaethol cyn bo hir ac rydym yn edrych ymlaen at ariannu llawer mwy o atyniadau treftadaeth ledled Cymru,” meddai Andrew White.

Bydd y bont yn parhau ar gau i ymwelwyr tra bydd y gwaith yn cael ei wneud, a disgwylir iddi ailagor yn 2023.