Mae’r heddlu wedi rhybuddio’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus o sgamiau sydd yn cynnig brechlynnau Covid-19 ffug.

Yn ôl Heddlu’r De maen nhw wedi dod ar draws sawl enghraifft o dwyllo, ac yn pwysleisio y bydd y brechlyn Covid-19 yn cael ei gynnig am ddim bob amser.

Mae’r heddlu hefyd yn annog pobol i godi ymwybyddiaeth am y sgamiau hyn ymysg teulu a ffrindiau.

Bydd y Gwasanaeth Iechyd byth yn:

  • Gofyn am daliadau, gan fod y brechlyn am ddim
  • Gofyn am eich manylion banc
  • Cyrraedd eich cartref yn ddirybudd i roi’r brechlyn
  • Gofyn i chi brofi eich manylion adnabod drwy anfon copïau o’ch dogfennau personol (e.e. pasbort)

‘Dyfeisgar a diegwyddor’

“Mae’r troseddwyr hyn yn ddyfeisgar ac yn ddiegwyddor,” meddai’r Ditectif Arolygydd Nick Bellamy o Uned Troseddau Economaidd Heddlu’r De.

“Gallant ymddangos yn argyhoeddiadol iawn, ac maent yn dewis manteisio ar bandemig byd-eang i geisio llenwi eu pocedi eu hunain.

“Bydd brechlyn Covid bob amser yn cael ei gynnig gan y Gwasanaeth Iechyd am ddim ac ni fydd angen i chi ddarparu manylion banc na manylion ariannol, cyfrineiriau na rhifau PIN ar unrhyw adeg.

“Gall negeseuon neu alwadau ffôn ffug sy’n honni eu bod gan y Gwasanaeth Iechyd neu’r llywodraeth, ofyn i chi ddarparu gwybodaeth bersonol neu glicio ar ddolen, neu gynnig grant gan y llywodraeth yn ymwneud â Covid i chi. Unwaith eto, sgamiau yw’r rhain.”

Enghreifftiau o sgamiau brechlyn Covid:

  • Gofyn i ddioddefwyr dalu ffi i gael brechlyn Covid ffug
  • Negeseuon testun twyllodrus yn cael eu hanfon er mwyn ceisio annog pobol i rannu eu manylion
  • Pobol yn galw heibio cartrefi yn ddirybudd er mwyn rhoi’r brechlyn iddynt am ffi
  • Gofyn i bobol bwyso rhif ar eu bysellfwrdd neu anfon neges destun i gadarnhau eu bod am dderbyn y brechlyn – gallai hyn naill ai ychwanegu at gost bil ffôn y dioddefwr neu ddatgelu gwybodaeth bersonol
  • Mae gwefannau ffug, sy’n ymddangos fel rhai go-iawn, yn gofyn am fanylion banc er mwyn cael y brechlyn