Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod gwerthiant manwerthu yn 2020 wedi gostwng ar y lefel gyflymaf ers 23 mlynedd.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod amcangyfrifon o faint a brynwyd yn 2020 wedi gostwng 1.9%, sef y gostyngiad mwyaf o flwyddyn i flwyddyn ers i’r cofnodion ddechrau ym 1997.

Cynyddodd gwerthiant manwerthu 0.3% y mis Ragfyr o’i gymharu â mis Tachwedd, wrth i siopau gael ailagor yn dilyn diwedd yr ail gyfyngiadau symud cenedlaethol.

Roedd siopau bwyd yn mynd yn groes i’r duedd yn 2020, gyda thwf o 4.3%, wrth i siopwyr barhau i fynd i archfarchnadoedd, a oedd yn parhau i fod ar agor fel siopau “hanfodol” drwy gydol y cyfyngiadau.

Roedd llawer hefyd yn elwa o gau’r sector lletygarwch, gyda gwerthiant alcohol yn tyfu’n sylweddol.

Ym mis Rhagfyr gwelwyd hwb mawr i siopau dillad, meddai’r asiantaeth, gyda thwf misol o 21.5% – yn dilyn gostyngiad o 19.6% ym mis Tachwedd.

Cynyddodd cyfanswm gwerthiant ar-lein 46.1% yn 2020 o’i gymharu â 2019 – y twf blynyddol uchaf a gofnodwyd ers 2008.

Dywedodd Ed Monk, cyfarwyddwr cyswllt, buddsoddi personol yn Fidelity International, fod y cynnydd cryf mewn gwerthiannau ar-lein yn dangos “bod 2020 yn drobwynt ar gyfer sut a ble rydym yn gwario ein harian”.

“Mae’n ddangosydd digalon, er nad yw’n syndod, o effaith Covid-19.”