Bydd pêl merch ddeg oed o sir Waterford yn Iwerddon yn cael ei dychwelyd iddi, wedi iddi arnofio i Gymru.
Roedd Aoife Ní Niocaill yn cerdded ar draeth Woodstown gyda’i brawd Dara a’i thad Ruairí pan ffarweliodd gyda’r bêl – sy’n cael ei defnyddio i chwarae pêl-droed Gaeleg.
“Fe wnes i gicio’r bêl i ganol nant… roedd y cerrynt yn rhy gryf ac aeth â hi allan yn rhy bell i mi ei nôl,” meddai Aoife Ní Niocaill wrth wasanaeth newyddion RTE.
Roedd ei henw wedi’i ysgrifennu ar y bêl dan sylw oherwydd bod gan ei brawd yr un fath o bêl.
Wythnos wedyn…
Saith diwrnod yn ddiweddarach, ar draeth Llanrhystud yng Ngheredigion, roedd dynes yn cerdded ac yn codi sbwriel, pan ddaeth hi o hyd i’r bêl.
Gwelodd Aline Denton y bêl ac roedd ar fin ei roi yn ei sach sbwriel, pan welodd bod enw wedi’i ysgrifennu ar y bêl.
“Digwydd gweld y bêl wnes i ac roeddwn i ar fin ei rhoi yn y bag, ac yn sydyn gwelais enw Aoife… roeddwn i’n gwybod ei fod yn enw Gwyddelig, a gallwn weld logo GAA (Gaelic Athletic Association) hefyd felly roedd yn amlwg ei fod wedi dod o Iwerddon.”
Y prynhawn hwnnw, tynnodd luniau o’r bêl a’u postio ar ei thudalen Facebook
“Mae hi’n meddwl ei bod hi’n enwog nawr”
Tua phum awr yn ddiweddarach, cafodd Ruairí Mac Niocaill, tad Aoife, neges gan ffrind gyda llun o’r bêl yn dweud iddo ddod o hyd iddi ar Facebook.
Yna rhoddodd sylw ar y llun gan ddweud: “Fi yw tad Aoife! Mae hi’n ddeg oed a chollodd ei phêl ar draeth Woodstown yn Sir Waterford ddydd Sul diwethaf.
“Aeth gyda’r dŵr gan fod y llanw’n mynd allan a’r oll y gallem ei wneud oedd ei gwylio’n llithro i ffwrdd.
“Dw i wedi dangos y llun iddi, mae hi’n meddwl ei bod yn enwog nawr!”
Cafodd y llun ei rannu 8,000 o weithiau yn ogystal â chael ei hoffi 5,000 o weithiau.