Mae cynlluniau ar y gweill i osod pum tyrbin 100kW ar wely’r môr rhwng Ynys Enlli a’r tir mawr ym Mhen Llŷn, er mwyn creu trydan.

Y bwriad yw gwneud Ynys Enlli yr ynys ynni glas cyntaf yn y byd, lle byddai cerrynt y môr yn cynhyrchu ynni gwyrdd i greu trydan, yn hytrach na gorfod dibynnu ar ddefnyddio tanwydd i gynhyrchu trydan ar yr ynys.

Mae Llywodraeth Cymru, trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, wedi buddsoddi £1.2 miliwn yn y cynllun.

Cwmni Nova Innovation fydd yn gyfrifol am osod y trybini.

Buddion economaidd

“Mae rhinweddau gwyrdd y cynllun yma’n amlwg,” meddai’r Cynghorydd Gareth Roberts sy’n cynrychioli Aberdaron.

“Ond i mi, fel cynghorydd lleol, dw i’n edrych ’mlaen yn arw at weld pa fuddion economaidd all y cynllun yma ei gyflwyno i’r ardal.

“Mae Nova Innovation eisoes wedi nodi eu bod yn awyddus i ddefnyddio contractwyr lleol, busnesau ac unigolion sy’n byw yn yr ardal, i weithio ar y datblygiad a manteisio ar y cyfleoedd ddaw yn sgil datblygu ynni llanw môr Enlli.

“Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cadwyni cyflenwi yn sgil datblygiadau buddsoddi o fewn cymunedau, ac mae’r cynllun yma yn cynnig cyfleoedd ym maes datblygu, peirianneg, adeiladu, technoleg, morwrol a llawer mwy.

“Fel Cynghorydd yr ardal, byddwn i hefyd yn falch o weld cyfleoedd addysgol yn rhan o’r gwaith, fel bod cyfle i ddisgyblion a myfyrwyr fanteisio ar y cyfle i oruchwylio, astudio a chael eu hysbrydoli gan gynllun technolegol blaengar fel hyn, yma yng ngogledd orllewin Cymru.”

“Dim effeithiau negyddol”

Mae gan gwmni Nova Innovation brofiad o gyflwyno trybini llanw ar Ynysoedd y Shetland.

Gan ddefnyddio camerâu tanddwr i fonitro bywyd gwyllt yn yr ardal gyfagos, maen nhw wedi canfod nad oes effeithiau negyddol ar fywyd gwyllt y môr, fel adar a mamaliaid morol.

“Yn wahanol i ynni gwynt lle mae’r farn gyhoeddus wedi ei rhannu, does dim effeithiau negyddol gweledol i’r tirlun gyda’r tyrbeini yma, gan eu bod wedi eu cuddio o dan y môr,” ychwanegodd Gareth Roberts.

“Ac yn bwysicach fyth, mae cynllun fel hyn yn cyfrannu at Wynedd Werdd y Cyngor Sir, lle mae cymunedau a thrigolion yn ceisio lleihau ôl troed carbon.”