Mae ymchwilwyr yn datblygu ap ar gyfer ffôn symudol i helpu cleifion sy’n gwella wedi strôc, i ymarfer mwy ac ymdopi gydag unigedd yn ystod pandemig Covid-19.
Bydd yr ap yn rhoi hyfforddiant yn y cartref i gleifion sy’n ei chael hi’n anodd symud ar ôl cael strôc.
Gyda’r feddalwedd, sy’n cael ei greu ym Mhrifysgol Aberystwyth, gall y cleifion fonitro eu symudiadau corfforol eu hunain, yn ogystal â darparu adborth er mwyn hybu hunan-gymhelliant.
Yn y dyfodol bydd yr ap yn cynnwys yr opsiwn i gleifion rannu eu statws gyda gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd a gydag ymchwilwyr.
“Defnyddio eu harbenigedd i wneud gwahaniaeth”
Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth Cymru gyda grant o £66,000.
Dywedodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams:
“Mae coronafeirws wedi effeithiau ar bobl mewn sawl ffordd wahanol, gyda’r angen i hunan-ynysu yn golygu bod angen i ni newid y ffordd rydyn ni’n ymarfer corff.
“Rwy’n falch ein bod yn cefnogi’r prosiect hwn… a bod staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn gallu defnyddio eu harbenigedd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl sy’n gwella ar ôl cael strôc.”
“Hyrwyddo gweithgarwch symud”
Mae’r Prif Ymchwilydd Dr Otar Akanyeti yn ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“Nod yr Ymarferydd Ymarfer Rhithwir yw lleihau ymddygiad eisteddog ar adeg pan allai cleifion strôc fod yn hunan-ynysu wrth wella gartref,” meddai.
“Drwy hyrwyddo gweithgarwch symud, bydd yr ap yn gwella lles corfforol, gwybyddol a meddyliol cleifion, yn cynorthwyo adferiad, ac yn y tymor hir yn atal cymhlethdodau iechyd pellach fel cwympiadau, strôc arall, diabetes neu iselder.”