Mae mwy o bobol bellach wedi eu brechu yng Nghymru nag sydd wedi cael prawf positif am y Coronafeirws yn y chwe wythnos diwethaf.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth gynhadledd i’r Wasg brynhawn dydd Gwener, Ionawr 22, bod dros 212,000 o bobl yng Nghymru bellach wedi cael eu brechu yn erbyn Covid-19.
Golyga hyn fod cynnydd o dros 22,000 wedi bod yn nifer y bobol sydd wedi eu brechu yn y 24 awr ddiwethaf.
“Mae mwy o bobl wedi cael eu brechu yn y chwe wythnos ddiwethaf na’r hyn sydd wedi cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru ers dechrau’r pandemig,” meddai Mark Drakeford.
“Mae’r rhaglen yn cyflymu’n gyflym ledled Cymru wrth i gyflenwadau o’r brechlynnau gynyddu.
“Rydyn ni ar y trywydd iawn i daro ein targed cyntaf, sef cynnig brechlyn i’r pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol Chwefror.”
Bythefnos yn ôl cyhoedded y Prif Weinidog gynlluniau i gynyddu nifer y canolfannau brechu torfol a meddygfeydd sy’n cynnig brechiad.
“Ers hynny, rydym wedi rhagori ar yr holl gynlluniau hynny,” meddai.
“Mae gennym fwy o glinigau nag erioed yn darparu brechiadau.”
Dywedodd fod mwy o feddygon teulu yn cynnig brechlyn Rhydychen-AstraZeneca a bod bron i 1,000 o breswylwyr cartrefi gofal y dydd yn cael eu brechu.
Ffigurau diweddaraf
- 67 o farwolaethau yn gysylltiedig â choronafeirws dros y 24 awr ddiwethaf.
- 4,459 wedi marw o’r feirws yng Nghymru ers dechrau’r pandemig.
- 801 o achosion newydd o’r feirws wedi eu cadarnhau hefyd.
- Dros yr wythnos ddiwethaf mae 271 o bob 100,000 o bobl yng Nghymru â’r feirws
- 212,317 o bobl yng Nghymru wedi derbyn eu brechiad cyntaf yn erbyn y feirws, cynnydd o 21,882 mewn diwrnod.
- 415 o bobol hefyd wedi derbyn yr ail ddos.
- 6 achos o amrywiolyn De Affrica yng Nghymru.
Adolygu’r cyfyngiadau
Bydd y cyfyngiadau diweddaraf i fynd i’r afael ag ymlediad y coronafeirws yn cael eu hadolygu’r wythnos nesaf.
Dywedodd Mark Drakeford bod achosion o’r feirws yn disgyn, ond fod angen gweld yr un gostyngiadau yn y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
“Mae rhai arwyddion calonogol bod nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty gyda Covid-19 yn dechrau sefydlogi,” meddai.
“Ond heddiw mae gennym niferoedd uchel iawn yn yr ysbyty o hyd gyda Covid-19 ac mae ein hunedau gofal critigol o dan bwysau enfawr.”
Daeth cyhoeddiad ddydd Iau, Ionawr 21, byddai’r cyfyngiadau sydd ar waith yng Ngogledd Iwerddon yn parhau mewn lle tan y pumed o Fawrth, ac yn yr Alban mae’r cyfyngiadau wedi’u hymestyn tan ganol mis Chwefror o leiaf.