Mae 145 o Aelodau Senedd Ewrop wedi ysgrifennu at y Comisiwn Ewropeaidd yn galw am groesawu Cymru a’r Alban yn ôl i raglen Erasmus.

Daw hyn ar ôl i Boris Johnson gyhoeddi’r penderfyniad i beidio cymryd rhan yn y cynllun bellach wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams, wedi bod yn cydweithio gyda llywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon i weld a yw’n bosibl ailymuno â’r cynllun.

Bu Prydain yn rhan o gynllun Erasmus ers 1987 gan roi’r hawl i fyfyrwyr astudio mewn prifysgolion ledled Ewrop.

“Mae’n hynod, hynod o siomedig bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dewis peidio â bod yn rhan o Erasmus,” meddai Kirsty Williams yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Llun, Ionawr 18.

Ond nawr mae yna obaith y bydd Cymru a’r Alban yn cael mynediad i’r cynllun drachefn yn sgil y llythyr at y Comisiwn.

Dywedodd y llythyr at Gomisiwn yr Undeb Ewropeaidd: “Fel nifer o bobol… rydym yn drist a gofidus i glywed bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi penderfynu gadael y rhaglen Erasmus.

“Hoffwn ofyn y cwestiynau isod wrth i ni gydnabod deheuad yr Alban a Chymru i alluogi myfyrwyr a phobol ifanc i barhau i allu cymryd rhan yn y rhaglen.

“Ydych chi’n gweld llwybr i ymestyn bendithion rhaglen Erasmus i fyfyrwyr a phobol ifanc yn yr Alban a Chymru?”

“Erioed wedi cael cymaint o gefnogaeth i fenter mewn cyn lleied o amser”

Dywedodd Terry Reintke, Aelod o Senedd Ewrop o’r Almaen, ac un o’r gwleidyddion arwyddodd y llythyr: “Ynghyd â 144 o gydweithwyr – rwyf wedi anfon y llythyr hwn at y Comisiwn er mwyn edrych ar ffyrdd i’r Alban a Chymru aros yn Erasmus.

“I mi, mae hefyd yn deyrnged i’r holl bobol wych a roddodd groeso imi yng Nghaeredin yn ystod fy mlwyddyn Erasmus i.

“Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd yn bosibl, ond roeddem o leiaf am archwilio popeth – ynghyd â’r Comisiwn a’r llywodraethau perthnasol – sut y gallwn ddod o hyd i ateb da i’r sefyllfa hon.

“Dw i erioed wedi cael cymaint o gefnogaeth i fenter mewn cyn lleied o amser.”

Cydweithio i geisio ailymuno â chynllun Erasmus

“Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i weld a allwn gadw’n haelodaeth o Erasmus+,” meddai Kirsty Williams