Mae Comisiwn y Senedd wedi dod i’r casgliad fod y gwleidyddion fu’n yfed yn y Senedd o bosib wedi torri rheolau.

Daw hyn ar ôl adroddiadau bod Paul Davies AoS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ynghyd â Darren Millar AoS, a Nick Ramsay AoS, yn yfed gyda’i gilydd yn yr Ytafell De yn Nhŷ Hywel, lle mae swyddfeydd gwleidyddion Bae Caerdydd wedi’u lleoli, ar Ragfyr 8.

Roedd yr Aelod Llafur, Alun Davies AoS, hefyd yno.

Dywedodd datganiad ar ran Paul Davies, Darren Millar a Paul Smith, pennaeth staff y Ceidwadwyr Cymreig ei bod “yn flin iawn gennym am ein gweithredoedd”.

“Tra na wnaethon ni dorri’r rheolau, rydym yn cydnabod na fyddai’r hyn oedd yn rhan o’r diwrnod gwaith yn cael ei weld yn dilyn eu hysbryd, yn enwedig o ystyried yr amser anodd mae’r wlad wedi bod yn mynd drwyddo,” meddai’r datganiad.

Mae Llafur Cymru wedi cadarnhau gwaharddiad Alun Davies o grŵp y Blaid Lafur yn y Senedd tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

“Mae aelod wedi cael ei atal o freintiau aelodaeth Grŵp Llafur y Senedd tra bod ymchwiliad yn digwydd i’r digwyddiad honedig hwn,” meddai llefarydd.

Mae cyfreithiwr Nick Ramsay wedi dweud ei fod yn yr Ystafell De, ond ei fod yn eistedd ar ei ben ei hun yn gymdeithasol bell yn bwyta “cyri cyw iâr” a’i fod wedi gadael am 8 yr hwyr.

“Rheolau wedi eu torri o bosib”

“Mae ymchwiliad mewnol y Comisiwn wedi sefydlu bod alcohol wedi cael ei yfed gan bum unigolyn yn ystafell de drwyddedig y Senedd a phedwar ohonynt yn aelodau etholedig,” meddai datganiad gan y Llywydd, Elin Jones AoS.

“Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad bod rheolau wedi eu torri o bosib ac felly mae Prif Weithredwr Comisiwn y Senedd wedi cyfeirio’r mater at Gyngor Caerdydd.

“Roedd y Rheoliadau a oedd ar waith adeg y digwyddiad yn gosod cyfyngiadau llym ar aelodau’r cyhoedd o ran yfed alcohol.

“O ystyried bod y torri rheol posib dan sylw wedi digwydd o ganlyniad i Aelodau’r Senedd yn yfed alcohol, rwyf hefyd wedi ysgrifennu at y Comisiynydd Safonau i ofyn iddo ymchwilio a oedd yr Aelodau hyn wedi gweithredu yn unol â’r ddyletswydd yn y Cod Ymddygiad i ymddwyn mewn modd sy’n cynnal a chryfhau ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn uniondeb y Senedd.”

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud y dylai’r Ceidwadwyr wahardd yr aelodau, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi datgan “cefnogaeth unfrydol” i Paul Davies. Darllenwch fwy isod.

Dylai’r Ceidwadwyr wahardd aelodau a fu’n yfed yn y Senedd, meddai Mark Drakeford

Ond y Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi “cefnogaeth unfrydol” i Paul Davies