Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi bod yn trafod ei benderfyniad i wahardd Alun Davies AoS o grŵp y Blaid Lafur -gan awgrymu y dylai’r Ceidwadwyr Cymreig wneud yr un peth.
Daw hyn yn dilyn adroddiadau fod Paul Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ynghyd â Darren Millar, Nick Ramsay ac Alun Davies yn yfed gyda’i gilydd yn yr Ystafell De yn Nhŷ Hywel, lle mae swyddfeydd gwleidyddion Bae Caerdydd wedi’u lleoli, ar Ragfyr 8.
Mae cyfreithiwr Nick Ramsay wedi dweud ei fod yn yr Ystafell De, ond ei fod yn eistedd ar ei ben ei hun yn gymdeithasol bell yn bwyta “cyri cyw iâr” a’i fod wedi gadael am 8 yr hwyr.
Mae adroddiadau fod rhai wedi aros tan 2 y bore.
“Mae’r syniad mai’r aelod o staff oedd ar fai yn anhygoel”
“Cyn gynted ag y dywedwyd wrthyf nos Lun, penderfynais ar unwaith y dylid atal yr aelod Llafur,” meddai Mark Drakeford, yn ei gynhadledd i’r wasg ddydd Gwener (Ionawr 22).
“O ystyried mod i wedi atal yr aelod Llafur gallwch gymryd fy mod yn credu na ddylai pobl eraill yn yr un sefyllfa fod wedi parhau fel petai dim wedi digwydd.
Wrth ymateb i gwestiynau gan newyddiadurwyr, cymerodd y Prif Weinidog y cyfle i nodi dau beth.
“Mae dau beth yn fy meddwl i sy’n bwysig i’w nodi,” ychwanegodd.
“Roedd un aelod o staff benywaidd yn wynebu casgliad o uwch Aelodau’r Senedd y noson honno, rwy’n awyddus iawn nad yw’r person yma’n cario’r baich am yr hyn a ddigwyddodd.
“Mae’r syniad mai’r aelod o staff oedd ar fai yn anhygoel ac rwy’n gobeithio’n fawr fel nad yw hyn yn mynd i’r cyfeiriad hwnnw,” mynnodd.
“Rwy’n credu bod hi’n glir o’r datganiad eu bod nhw wedi mynd i mewn a chael hanner cyflym cyn mynd adref – a bydd pobl yn awyddus iawn i gymharu hyn â chanfyddiadau’r ymchwiliad.
“Credaf hefyd y bydd angen i bobol gymharu’r hyn y mae pobl wedi’i ddweud â chasgliad yr ymchwiliad.”
Y Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi “cefnogaeth unfrydol” i Paul Davies
Dywedodd datganiad gan gadeirydd grŵp Ceidwadwyr Cymru yn Senedd Cymru, Janet Finch Saunders, ei bod yn rhoi “cefnogaeth unfrydol” i Paul Davies.
“Fe wnaeth Grŵp Ceidwadwyr Cymru gyfarfod heddiw i drafod digwyddiadau yn cynnwys tri aelod o’r Grŵp ar yr 8fed o Ragfyr,” meddai’r datganiad.
“Estynnodd y Grŵp ei gefnogaeth unfrydol i Paul Davies barhau yn ei swydd fel Arweinydd y Grŵp.”
Mewn datganiad cynharach ar ran Paul Davies, Darren Millar a Paul Smith, pennaeth staff y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd y ddau AoS eu bod “yn flin iawn gennym am ein gweithredoedd”.
“Tra na wnaethon ni dorri’r rheolau, rydym yn cydnabod na fyddai’r hyn oedd yn rhan o’r diwrnod gwaith yn cael ei weld yn dilyn eu hysbryd, yn enwedig o ystyried yr amser anodd mae’r wlad wedi bod yn mynd drwyddo,” meddai’r datganiad.