Bedair blynedd yn ôl eisteddais ochr yn ochr â newyddiadurwyr eraill, pob un ohonom mewn cyflwr o anghrediniaeth wrth inni wylio’r canlyniadau’n dod i mewn.
Ni ragwelodd unrhyw un yr hyn a ddigwyddodd. Cwympodd talaith ar ôl dalaith i Donald Trump. Ac yn y diwedd Pennsylvania oedd y dalaith a seiliodd y fargen.
Dwi’n aml yn meddwl pam yr oedden ni i gyd wedi synnu cymaint?
Wrth gwrs yr ateb yw ein bod ni wedi camddeall momentwm yr asgell dde yn America. Doedden ni ddim wedi ystyried pa mor anhapus oedd pobl, a faint o newid oedd pobl eisiau gweld.
Ac felly, dros y bedair blynedd a ddilynodd, gwelsom Executive Orders asgell dde yn cael eu llofnodi gan yr Arlywydd Trump, y cyfryngau asgell dde yn cryfhau, a chynnydd cyflym mewn grwpiau â chymhelliant gwleidyddol eithafol.
Mi fasa’n gam dweud bod cefnogaeth yr asgell dde wedi ymddangos o unman, heb reswm.
Yn ogystal, roedd yr eithafwyr ar y chwith yn dod yn fwy egnïol. Dechreuodd yr holltau gwleidyddol ddyfnhau.
Protestiadau
Erbyn 2020, roedd o’n anodd credu bod llawer o dir canol yn bodoli. Roedd y wlad wedi’i pholareiddio, a doedd ’na ddim troi yn ôl.
Yna tarodd COVID19, a marwolaeth George Floyd.
Ffrwydrodd protestiadau ledled y wlad. Dechreuodd Antifa, aelodau o’r asgell chwith, wrthdaro gyda’r heddlu a grwpiau o’r asgell dde. Dechreuodd grwpiau milisia dyfu mewn aelodau. Daeth y Proud Boys yn enw cyfoes, cyfarwydd.
Roedd rhyfel diwylliannol wedi cychwyn, ac roedd yn agosáu at fod yn rhyfel go iawn.
Fel newyddiadurwraig, mae gweithio yn yr Unol Daleithiau am y bedair blynedd ddiwethaf wedi darparu llawer o uchafbwyntiau yn fy mywyd. Rwyf wedi cael cyfle i gwrdd a chyfweld â phobl na fyddwn i fyth wedi breuddwydio y byddwn yn cwrdd â nhw.
Ond dw i hefyd wedi gwisgo flak jacket yn amlach yn yr Unol Daleithiau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf na fy amser cyfan yn y Dwyrain Canol. O ddifri.
Dwi wedi fy nghyfareddu – os mai dyna’r gair cywir – gan y ddau eithaf gwleidyddol.
Eisteddais i lawr a bwyta brechdan gyda phennaeth y Proud Boys; saethu reifflau yn y coed gyda’r grŵp milisia III%, cael fy ngwthio yn ôl gan heddlu ffederal tra’n dilyn Antifa – mae’r cyfan wedi bod yn… ddiddorol.
Mae cwrdd â phobl sydd mor angerddol am eu syniadau a’u gwlad fel eu bod yn barod i roi eu bywydau i ymladd yn rhywbeth dwi ddim ond wedi deall trwy dreulio amser go iawn gyda’r bobl hyn.
Cyfwelais â chyn-filwr rhyfel 90 oed yn Idaho ychydig fisoedd yn ôl tra’n mynychu brecwast wedi’i gynnal gan y Blaid Weriniaethol. Ysbrydolwyd ei farn a’i deimladau gan un peth: roedd arno ofn am y dyfodol, nid iddo’i hun, ond i’w wyrion.
Nid yw’r esgyll chwith na dde yn America yn rhannu’r un ideoleg, ond yn aml, mae’r rhethreg yr un peth: maen nhw wedi colli ffydd yn y Llywodraeth. Nid ydyn nhw am i’r ochr arall gael platfform, ac maen nhw’n barod i ddefnyddio grym i amddiffyn eu barn.
Mae’r rhan fwyaf o’r gwrthdaro yn yr Unol Daleithiau yn cael ei yrru gan y syniad o ryddid. Mae’r syniad o ryddid wedi’i ymgorffori yng nghyfansoddiad yr Unol Daleithiau, ond gall rhyddid olygu gwahanol bethau i wahanol bobl, ac mae wedi dod yn beth gwleidyddol iawn.
Y Capitol
Mae’r digwyddiadau yn y Capitol ar Ionawr 6ed yn enghraifft berffaith o sut mae’r syniad o ryddid yn America wedi gwyro.
Ar y diwrnod y digwyddodd yr ymosodiad, roeddwn i yn Atlanta, yn adrodd ar foment hanesyddol wrth i’r Seneddwr du cyntaf ennill sedd y dalaith, a’r foment y cymerodd y Democratiaid reolaeth ar y Senedd.
Aeth fy niwrnod o reportio’r uchafbwynt hwnnw, yn syth i reportio isafbwynt i ddemocratiaeth America wrth imi neidio ar awyren a rhuthro yn ôl i Washington DC i adrodd ar stori’r Capitol.
Roedd gwylio hofrennydd Trump yn gadael DC ar Ionawr 20fed, a Joe Biden a Kamala Harris yn cael eu hurddo i’w swyddi yn hanesyddol am gymaint o resymau.
Roedd ’na gymysgedd o emosiwn yn yr Unol Daleithiau y diwrnod hwnnw, oherwydd mae hon yn wlad sydd wedi’i rhannu’n ddwy. Ac fel newyddiadurwraig, mae’r un mor bwysig ein bod ni’n gwrando ar y rhai sy’n anhapus ag yr ydym ni yn adrodd ar y straeon am ddathlu. Dylai pawb gael llais.
Diddordeb gan Gymry
Rwy’n teimlo mor ffodus i fod yn rhan o stori America mewn ffordd fach fach. A hyd yn oed yn fwy lwcus fy mod wedi gallu rhoi sylw i’r stori hon i gynulleidfa Cymru.
Mae’r diddordeb yn yr Unol Daleithiau gan bobl yng Nghymru wedi bod yn anhygoel, a dwi’n ddiolchgar i olygyddion Newyddion S4C, Radio Cymru, Cymru Fyw, ynghyd â Golwg a golwg360 wrth gwrs, fod y stori hon wedi dod yn fyw yn yr iaith Gymraeg.
Roedd cael y cyfle i deithio dros y wlad gyda Jason Edwards ar gyfer ffilm S4C ‘Trump America a Ni’ yn wych.
Rwy’n credu ei bod yn bwysig adrodd ar faterion tramor o bwys yn Gymraeg. Mae gweld clip unigryw o filisia adain dde ar S4C yn gwthio ffiniau, ac rydw i wedi mwynhau bod yn rhan o hynny.
Wrth gwrs, ni ddaeth stori’r UDA i ben pan ddechreuodd Biden ei swydd. Megis cychwyn!
Pleidleisiodd dros 70 miliwn o Americanwyr dros y llall, rhaid cofio. Mae miloedd wedi bod yn barod i brotestio ar y strydoedd a thorri i mewn i’r adeilad sy’n cynrychioli calon democratiaeth America.
Ar noson urddo Biden, fe wnaeth protestwyr Antifa wrthdaro â’r heddlu yn Portland.
Nid yw’r polareiddio yn yr Unol Daleithiau wedi diflannu – mae pobl ar y ddwy ochr yn teimlo nad ydyn nhw wedi’u cynrychioli’n ddigonol. A hyd nes y bydd parch at y syniad o gydfodoli, un o’r prif bwyntiau yr adeiladwyd y genedl hon arni, ni fydd fawr o newid.