Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn ffyddiog y bydd 70% o bobl dros 80 oed a phobl mewn cartrefi gofal wedi cael cynnig brechiad erbyn diwedd y dydd yfory, dydd Sul.

Mae hyn er gwaethaf y ffaith fod ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru ymhell o gyrraedd targedau o’r fath. Yn ôl ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, dim ond 38.7% o bobl dros 80 oed sydd wedi derbyn y brechlyn hyd yma. Mae’r cyfrannau’n uwch ar gyfer cartrefi gofal – gyda 63.2% o’r trigolion a 72.3% o’r staff wedi cael y brechlyn.

Dros yr wythnos ddiwethaf, mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cael eu cyhuddo o roi darlun rhy ffafriol o gynnydd y rhaglen frechu.

Dadl Mark Drakeford, fodd bynnag, yw nad yw ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf.

“Oherwydd ein bod ni’n gweld y data diweddaraf o ddydd i ddydd, mae hynny’n rhoi hyder inni wybod y bydd, erbyn diwedd dydd Sul, 70% o bobl dros 80 oed a phobl mewn cartrefi gofal wedi cael cynnig y brechlyn a’i dderbyn,” meddai.

Mae am gymryd rhai dyddiau, fodd bynnag, i allu gweld a gafodd y targed hwn ei gyrraedd ai peidio.

“Fe fydd nifer o ddyddiau cyn y bydd y data swyddogol yn adrodd yn llawn yr hyn sydd wedi cael ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos yma,” esboniodd y Prif Weinidog.

Gobaith am fwy o’r brechlyn

Dywed Mark Drakeford hefyd fod Cymru’n debygol o dderbyn cyfran ychydig yn fwy o frechlynau Covid-19 y Deyrnas Unedig er mwyn adlewyrchu poblogaeth hŷn Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’r brechlynau’n cael eu rhannu rhwng y gwledydd ar sail poblogaeth yn unig.

Yn dilyn cyfarfod rhyngddo a phrif weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, a gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Michael Gove, fodd bynnag, dywed Mark Drakeford ei fod yn hyderus y bydd hyn yn cael ei addasu rywfaint yn ôl ag anghenion penodol y gwledydd unigol.

“Er mwyn cyfateb â phroffil Cymru, mae’n debyg ein bod ni angen ychydig yn fwy o’r brechlyn, a chyfuniad ychydig yn wahanol o’r ddau frechlyn, ar y cychwyn,” meddai.

“Ymhellach ymlaen, mae ein poblogaeth yn golygu na fyddwn angen cymaint â rhannau eraill o’r Deyrnas Uneig oherwydd fe fydd gennym grwpiau llai o’r bobl yn y grwpiau oedran hynny.”