Mae gwyddonwyr wedi rhybuddio yn erbyn llacio rheolau’r cyfnod clo yn dilyn tystiolaeth y gall straen newydd y coronafeirws sy’n lledaenu drwy Brydain y dyddiau hyn fod yn beryclach na’r un gwreiddiol.

Dywedodd prif ymgynghorydd gwyddonol llywodraeth Prydain, Syr Patrick Vallance, ddoe y gallai’r straen newydd fod yn 30% mwy tebygol o achosi marwolaeth ymhlith dynion rhwng 60 a 70 oed. Daw’r wybodaeth hon ar ôl i’r straen newydd ddangos bod ei raddau trosglwyddo hefyd 70% yn fwy.

Dywedodd Rowland Kao, athro epidemioleg a gwyddor data ym Mhrifysgol Caeredin, y gallai’r canfyddiadau diweddaraf esbonio’r niferoedd “annisgwyl o uchel” o gleifion ysbyty, yn enwedig o gwmpas Llundain.

“Er bod y canlyniadau diweddar yn dangos gostyngiad yn nifer yr achosion, gan awgrymu bod modd rheoli’r straen trwy’r mesurau presennol, mae’r canlyniadau hyn ar farwolaethau yn awgrymu y bydd y baich ar ysbytai yn parhau, gan ofyn am gyfnod hirach o gyfyngiadau,” meddai.

Dywed yr Athro Syr Mark Walport, aelod o’r Grwp Ymgynghorol Gwyddonol ar gyfer Argyfyngau (Sage), y gall fod angen mesurau mwy llym fyth os na fydd achosion yn parhau i ostwng y gyflym.

“Rhaid fydd gwneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth,” meddai.

Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson hefyd yn rhybuddio bod nifer yr achosion yn dal yn beryglus o uchel ac y byddai’n gamgymeriad llacio cyfyngiadau pe bai hynny’n arwain at gynnydd mawr arall yn y salwch.