Mae Swyddfa’r Cabinet yn Llundain yn pwyso ar bleidiau gwleidyddiol i beidio ag ymgyrchu wyneb yn wyneb â phobl yn ystod y cyfnod clo presennol.

Nid yw dosbarth taflenni na chanfasio yn weithgaredd hanfodol nac angenrheidiol, yn ôl y Gweinidog Chloe Smith.

Daw’r apêl wrth i bleidiau gwleidyddol baratoi ar gyfer etholiadau seneddol yng Nghymru a’r Alban ac amrywiol etholiadau lleol yn Lloegr ym mis Mai.

“Barn y Llywodraeth yw nad yw’r cyfyngiadau’n cefnogi ymgyrchu o ddrws i ddrws na thaflennu gan aelodau o bleidiau gwleidyddol unigol,” meddai Chloe Smith, Gweinidog yn Swyddfa’r Cabinet, mewn llythyr at Banel y Pleidiau Seneddol.

“Mae’n cael ei dderbyn yn helaeth y gall pleidleiswyr barhau i gael gwybodaeth ymgyrchu o bell. Er mwyn lleihau trosglwyddo haint Covid-19, nid yw ymgyrchu o ddrws i ddrws ar hyn o bryd yn cael ei ystyried fel gweithgarwch hanfodol nac angenrheidiol.

“Dw i’n gofyn i bob plaid ddilyn y cyngor hwn, a sicrhau bod eich cefnogwyr yn ymwybodol o’r sefyllfa.”

Daw hyn ar ôl i Syr Ed Davey o’r Democratiaid Rhyddfrydol amddiffyn ei blaid am barhau â thaflennu o ddrws i ddrws yn ystod y pandemig.

Roedd yn mynnu bod ei aelodau’n cadw at ganllawiau’r llywodraeth.

“Mae’r canllawiau’n dweud bod eithriad i fudiadau gwirfoddol,” meddai. “Rydym wedi cael cyngor cyfreithiol, a’r cyngor rydym wedi’i roi i’n cynghorwyr a’n gwirfoddolwyr yw bod angen iddyn nhw wisgo masg, cadw pellter cymdeithasol, a diheintio’u dwylo.

“Rydym yn cymryd yr holl gamau mae Amazon a’r Post Brenhinol yn eu cymryd.”