Mae meddygon yn Ffrainc yn cynghori pobl i beidio â siarad ar fysiau a threnau er mwyn arafu lledaeniad y coronafeirws.

Dywed Academi Meddygon y wlad y dylai pobl osgoi siarad na gwneud galwadau ffôn mewn unrhyw le cyhoeddus lle nad yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol.

Mae mygydau wyneb wedi bod yn orfodol ers mis Mai, ond mae teithwyr yn aml y neu llacio neu eu tynnu i siarad ar y ffôn.

Mae arbenigwyr eraill wedi bod yn galw am fesurau llymach – gan gynnwys trydydd cyfnod clo.

Mae mwy o gleifion coronafeirws yn ysbytai Ffrainc nag oedd ym mis Hydref pan oedd y wlad o dan gyfnod clo. Mae’r heintiadau wedi bod yn codi’n raddol y mis yma, ar raddfa o fwy na 20,000 y dydd.

Er bod tai bwyta a safleoedd ymwelwyr wedi cau ers mis Hydref, mae’r llywodraeth wedi ceisio osgoi clo llawn arall hyd yma.

Mae 72,647 o farwolaethau cysylltiedig â’r feirws wedi bod yn Ffrainc.