Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu ymateb Cyngor Ceredigion i argyfwng tai yn y sir.

Mae 5.91% o dai Ceredigion yn ail gartrefi – un o’r canrannau sirol uchaf yng Nghymru, a chanran sy’n cynyddu i gymaint â 26% yn ward Cei Newydd.

Yng nghyfarfod llawn y Cyngor ddoe (21ain o Ionawr), gofynnodd arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwynn, i bwyllgor craffu drafod cynnig ar y mater yn ei gyfarfod nesaf ac i adrodd yn ôl cyn cyfarfod nesaf y cabinet ym mis Chwefror. Mae’r cynnig yn galw am y canlynol:

  • Newid y ddeddfwriaeth gynllunio i gynnwys hawl i reoli’r nifer o dai sy’n cael eu tynnu o’u stoc tai lleol at ddefnydd ymwelwyr
  • Grym i gynghorau fynnu bod yn rhaid cael caniatâd cynllunio i newid tŷ annedd yn dŷ gwyliau
  • Galluogi cynghorau i gyflwyno trothwy o gyfanswm o dai gwyliau fesul ward
  • Rhwystro perchnogion rhag newid ail gartrefi yn fusnesau er mwyn osgoi talu treth cyngor.

Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith, Jeff Smith:

“Mae ail gartrefi yn broblem anferth yng Ngheredigion ac mae’n braf gweld bod y Cyngor yn bwriadu gweithredu. Mae’n braf gweld hefyd bod ewyllys gwleidyddol yn bodoli ac yn deillio o arweinyddiaeth y Cyngor, gyda’i arweinydd Ellen ap Gwynn yn ei gwneud yn glir yng nghyfarfod diweddaraf y Cyngor fod angen gweithredu ar y mater hwn.

“Mae’r argyfwng yn broblem genedlaethol, a nawr yw’r  amser i bob plaid ymrwymo i gyflwyno Deddf Eiddo yn y Senedd nesaf a phenderfynu am unwaith i flaenoriaethu cymunedau, nid cyfalafiaeth.”