23% o boblogaeth Cymru sydd o blaid annibyniaeth i Gymru, a 31% sydd o blaid cynnal refferendwm annibyniaeth, yn ôl cyfres o bolau piniwn sydd wedi’u comisiynu gan y Sunday Times.

Nod y polau yw ceisio barn trigolion gwledydd Prydain tuag at yr Undeb.

Mae’r polau’n dangos bod pleidleiswyr ym mhob un o’r gwledydd o’r farn bod yr Alban yn debygol o fynd yn annibynnol yn ystod y degawd nesaf, ac mae mwy na hanner trigolion Gogledd Iwerddon yn awyddus i weld refferendwm ar uno Iwerddon o fewn pum mlynedd.

Yn yr Alban, mae 49% o blaid annibyniaeth, gyda dim ond 44% yn erbyn – ac mae’r ffigurau hynny’n newid i 52% a 48% o anwybyddu’r rhai a nododd nad oedden nhw’n gwybod y naill ffordd na’r llall.

47% o drigolion Gogledd Iwerddon sydd am barhau’n rhan o’r Deyrnas Unedig, 42% sydd o blaid uno Iwerddon, ac mae 11% yn ansicr.

Ond pe bai refferendwm o fewn y pum mlynedd nesaf, byddai 51% am weld uno Iwerddon gyda 44% yn erbyn.

Ar draws y pedair gwlad, mae mwy yn disgwyl i’r Alban adael y Deyrnas Unedig nag aros – 49% i 23% yng Nghymru, 49% i 19% yn Lloegr, 60% i 28% yng Ngogledd Iwerddon a 49% i 30% yn yr Alban.

Cafodd 1,059 o oedolion yng Nghymru eu holi rhwng Ionawr 18 a 21, gyda 1,206 yn cael eu holi yn yr Alban rhwng Ionawr 19 a 22, 1,416 o oedolion yn Lloegr rhwng Ionawr 19 a 20. Fe wnaeth Lucidtalk holi 2,392 o bobol dros 16 oed yn Ngogledd Iwerddon rhwng Ionawr 15 a 18.