Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cau pedair canolfan frechu oherwydd y tywydd.

Bydd canolfannau Pen-y-bont ar Ogwr, Cwm Rhondda, Abercynon a Merthyr Tudful ynghau tan yfory (dydd Llun, Ionawr 25) “am resymau diogelwch”, meddai’r bwrdd iechyd mewn datganiad.

Maen nhw’n dweud bod y rhai sydd wedi cael eu heffeithio wedi cael gwybod, a bod eu hapwyntiadau am frechlyn wedi cael eu symud i ddyddiad arall.

Maen nhw’n annog pobol i ffonio’r rhif ffôn sydd ar y llythyr apwyntiad neu edrych ar wefan y bwrdd iechyd os oes gan bobol ymholiadau neu gwestiynau.

Mae’r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro ac wedi diolch i’r cyhoedd “am eu cydweithrediad”.