Mae Guto Harri yn dweud y “bydd angen cryfhau’r achos dros yr Undeb os yw am wrthsefyll ‘Wexit'”.
Daw sylwadau’r newyddiadurwr a chyn-Gyfarwyddwr Cyfathrebu Boris Johnson wrth iddo ymateb i bolau piniwn y Sunday Times am agweddau tuag at yr Undeb, sy’n dangos bod 23% o drigolion Cymru o blaid annibyniaeth.
Mae’r erthygl, sy’n crybwyll rhan ei dad Harri Pritchard-Jones yn yr ymgyrch dros sefydlu S4C wrth fynd i’r carchar am wrthod talu ffi’r drwydded.
“Bryd hynny, câi cenedlaetholdeb Cymreig ei yrru ar y cyfan gan uchelgais ieithyddol a diwylliannol deallusion,” meddai.
“Roedd yn angerddol ond yn gamp i’r lleiafrif.”
Enwogion o blaid annibyniaeth
Mae e hefyd yn cyfeirio at y rôl mae enwogion fel Neville Southall a Charlotte Church wedi’i chwarae yn yr ymgyrch tros annibyniaeth.
“Fyddai neb yn disgrifio Neville Southall fel deallusyn ac er bod modd dadlau mai fe yw’r golwr gorau erioed, doedd e byth wir yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth,” meddai.
“Ond yn ddiweddar mae ‘Big Nev’ wedi bod yn siarad mewn ralïau annibyniaeth gan alw ar i’r ‘Ddraig’ “sefyllf ar ei thraed ei hun”.
“Ewch i weld ei ffrwd Twitter ac fe welwch chi fod ei ddirmyg tuag at Johnson yn lliwgar, ond mae ei ddadl yn ei hanfod yn erbyn system sydd wedi methu â dylifro: “Dw i ddim yn meddwl bod ots gan bobol yn San Steffan amdanom ni”.”
Un arall fu’n weithgar yn y mudiad annibyniaeth yw’r gantores Charlotte Church, un sydd “wedi diddanu rhai o bobol fwyaf pwerus y byd”, meddai.
“Ond dechreuodd hi eleni yn groch dros Yes Cymru.
“Byddai annibyniaeth, meddai, yn galluogi Cymru i ddod yn arwydd o amgylcheddaeth a lles.
“Mae ei neges fideo blwyddyn newydd yn dweud bod 50 o wledydd wedi torri’n rhydd o San Steffan. “Does yna’r un wedi gofyn am gael mynd yn ôl”.
Dyn busnes blaenllaw
Mae Guto Harri yn mynd yn ei flaen wedyn i grybwyll hanes David Buttress, perchennog a sylfaenydd Just Eat.
“Mae’r cyfryw bobol wedi tueddu i fynnu nad yw annibyniaeth yn economaidd ddichonadwy,” meddai.
“Mae Buttress yn dadlau i’r gwrthwyneb – fod cael ei llywodraethu gan San Steffan wedi dal Cymru yn ôl, ac y caiff ei chondemnio i amddifadedd am byth oni bai ei bod yn adennill rheolaeth, a benthyg ymadrodd.”
Mae’n dweud bod Buttress wedi’i fagu yng Nghasnewydd gan “edrych tua Bryste” wrth i Went, ei sir enedigol, ymwrthod â datganoli 40 mlynedd yn ôl.
“Ond mae pôl y Sunday Times heddiw yn dangos y byddai un o bob pump o bleidleiswyr yn y gornel honno yn ne-ddwyrain Cymru’n pleidleisio dros dorri’n rhydd nawr,” meddai.
“Byddai un o bob tri [yn pleidleisio o blaid annibyniaeth] yng Nghaerdydd a de Cymru’n gyffredinol.
“Yn ddiddorol, mae’r ganran fwyaf a fyddai’n pleidleisio yn erbyn [annibyniaeth] yng ngogledd Cymru.”
Llafur a datganoli
Er gwaethaf ymdrechion Tony Blair “i ddatganoli grym i Gymru i geisio lladd annibyniaeth”, mae Guto Harri yn dweud bod y broses ddatganoli’n “tanio” yr ymgyrch tros annibyniaeth erbyn hyn, gyda 38% o bleidleiswyr Llafur bellach o blaid gadael y Deyrnas Unedig.
Ac wrth drafod Brexit, mae’n dweud bod “rhai wedi cyfrannu mwy at achos annibyniaeth i Gymru na fy niweddar dad”.
“Mae meddwl am fod ynghlwm wrth ben ôl Lloegr yn y Deyrnas Unedig, pe bai’r Alban a Gogledd Iwerddon yn mynd ymaith, yn beth llwm i rai,” meddai.
Mae’n dadlau ymhellach fod modd defnyddio dadl Brexitwyr wrth drafod “hwyluso masnach” a “gwneud y mwyaf o’n dylanwad” yr un mor berthnasol i’r ddadl dros annibyniaeth i Gymru.
“Ddylai Brexitwyr ddim synnu pe bai’r un rhesymeg yn cael ei ddefnyddio mewn sefyllfa wahanol,” meddai.
“Does bosib fod John Redwood, yn enwedig, yn deall eironi cyflwyno’r achos yn erbyn gwleidyddion o genedl a safbwyntiau gwleidyddol eraill yn cyflwyno deddfau sy’n berthnasol i wlad a bleidleisiodd yn erbyn pob aelod seneddol Ceidwadol yn yr etholiad a ddilynodd ei gyfnod yn Ysgrifennydd Cymru.”
A oes modd atal annibyniaeth?
Mae Guto Harri hefyd yn dadlau nad yw’r ymgyrch tros annibyniaeth yn “ddiatal”.
“Byddai mwyafrif ym mhob sir, dosbarth a chategori oedran yn cadw’r Undeb mewn pleidlais yfory,” meddai.
“Ond mae anfodlonrwydd gyda’r status quo.
“Mae’r system wedi cael ei hansefydlogi, a bydd angen cryfhau’r achos dros yr Undeb os yw am wrthsefyll y posibilrwydd o ‘Wexit’.”