Mae’r SNP wedi cyhoeddi dogfen sy’n nodi’r camau y bydd yn eu cymryd i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban os caiff ei hailethol fel llywodraeth.
Fe fydd Ysgrifennydd Cyfansoddiad Llywodraeth yr Alban, Mike Russell, yn cyflwyno’r ddogfen i fforwm polisi’r blaid yfory, dydd Sul 24 Ionawr.
Mae’r ddogfen yn datgan y bydd “refferendwm cyfreithlon” yn cael ei gynnar ar ôl y pandemig os bydd mwyafrif o aelodau sydd o blaid annibyniaeth yn cael eu hethol i senedd yr Alban eleni.
Mae’n rhybuddio hefyd y bydd unrhyw ymgais gan Lywodraeth Prydain i herio cyfreithlondeb y refferendwm yn cael ei wrthwynebu’n gryf.
“Dw i’n credu’n gryf bod yn rhaid i refferendwm yr Alban fod y ddiogel rhag her cyfreithiol er mwyn sicrhau cyfreithlondeb ac i’r bleidlais gael ei derbyn gartref a thramor,” meddai Mike Russell wrth gyhoeddi’r ddogfen y bore yma.
“Dyna’r ffordd sicraf o bell ffordd i ddod yn wlad annibynnol.
“Dylai’r refferendwm gael ei gynnal ar ôl y pandemig, ar adeg i’w benderfynu gan Senedd yr Alban sydd wedi cael ei hethol yn ddemocrataidd. Mae’r SNP yn credu y dylai hyn fod yn gynnar yn y tymor newydd.
“Dw i heddiw’n nodi sut dw i’n credu y gellir sicrhau’r hawl hwnnw, a dw i’n croesawu’r drafodaeth a fydd ynghylch hyn.
“Ond yr hyn sydd y tu hwnt i unrhyw drafodaeth yw’r ffaith os bydd yr Alban yn pleidleisio dros refferendwm cyfreithlon ym mis Mai eleni, dyna beth fydd yn ei gael.
“Bydd Llywodraeth yr SNP yn yr Alban yn gweithredu refferendwm o’r fath os caiff ei hailethol, ac mae’r cynigion dw i’n eu cyflwyno yn gwneud hyn yn glir iawn.”
Mae disgwyl i tua mil o aelodau’r blaid gymryd rhan yng nghynulliad cenedlaethol yr SNP yfory.
Mae’r gwrthbleidiau Llafur a Thorïaidd eisoes wedi beirniadu’r cynlluniau, gan gyhuddo’r SNP o roi annibyniaeth o flaen pandemig y coronafeirws. Ar yr un pryd, caiff y ddogfen ei chyhoeddi ar adeg pan mae carfan o aelodau a chefnogwyr yr SNP yn cyhuddo’r arweinyddiaeth o lusgo traed ar annibyniaeth. Barn rhai o’r cenedlaetholwyr hyn yw mai’r unig ffordd o ennill annibyniaeth i’r Alban yw trwy geisio mandad dros hynny yn yr etholiad, a thrin yr etholiad ei hun fel refferendwm.