Bydd ffatri yn Ynys Môn sydd wedi bod yn ganolbwynt achosion covid-19 yn ailagor yn rhannol yn ddiweddarach.

Cafodd 217 o achosion eu cadarnhau ymhlith 560 aelod staff 2 Sisters, a chafodd y ffatri prosesu cig ei chau am bythefnos.

Taniodd hyn drafodaeth am gyfyngiadau lleol (local lockdown), a bu oedi yn ei sgil wrth ailagor ysgolion yn Ynys Môn.

Bydd gwaith y ffatri yn ailddechrau yn raddol, a fyddan nhw ddim yn cynhyrchu cig tan ddydd Llun.

“Cwmni cyfrifol”

Mae 2 Sisters yn dweud eu bod wedi treulio amser yn “gweithio’n agos” ag awdurdodau, a’i bod “yn gwmni cyfrifol” a wnaeth “ymateb yn y ffordd gywir”.

“Ni yw un o gyflogwyr mwya’ Ynys Môn, ac rydym yn ddigon ymwybodol o’n cyfrifoldeb i’r gymuned er mwyn sicrhau ein bod yn diogelu pawb y gallwn ni, ac yn cymryd gofal,” meddai llefarydd.

“Dim ond y cam cyntaf oedd cau’r ffatri. A dros y pythefnos diwethaf rydym wedi bod yn drwyadl wrth sicrhau’r safonau uchaf dan fesurau covid-19.”

Mae dwy ffatri arall wedi profi clwstwr o achosion covid-19 gan gynnwys Rowan Foods yn Wrecsam (283 achos) a Kepak ym Merthyr Tudful (134 achos).