Mae’r Blaid Lafur “yn erbyn y syniad o ail refferendwm annibyniaeth” yn yr Alban, yn ôl Nick Thomas-Symonds, aelod seneddol Llafur Torfaen a llefarydd materion cartref y blaid yn San Steffan.

Daw ei sylwadau yn dilyn cyfres o arolygon barn gan The Sunday Times ac wrth i’r SNP ddadlau y byddai ennill mwyafrif yn etholiadau Holyrood yn fandad clir iddyn nhw fynd â’r maen i’r wal dros annibyniaeth.

“Dw i’n credu y byddai’n gamgymeriad mawr [pe baen ni’n] cymryd yr etholiad ym Mai yn yr Alban neu unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig yn ganiataol, ac os yw unrhyw blaid yn cymryd pleidleisiau’n ganiataol yna ddylen nhw’n amlwg ddim bod yn gwneud hynny,” meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Mae gennym ni safbwynt clir iawn wrth fynd i mewn i’r etholiadau hynny yn yr Alban yn erbyn y syniad o ail refferendwm annibyniaeth.

“Ar hyn o bryd, rydym yng nghanol y pandemig hwn, y pandemig hwn a chydweithio ar draws y Deyrnas Unedig i wneud ein gorau i achub bywydau ddylai fod yr unig ffocws ar hyn o bryd, nid y mater cyfansoddiadol hwn.”

‘Bwlch o 40 mlynedd’

Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, eisiau cynnal “refferendwm cartref Albanaidd” pe bai’r SNP yn ennill yr etholiad nesaf, meddai.

“Dw i eisiau cael refferendwm cyfreithlon, dyna dw i am geisio’r awdurdod gan bobol yr Alban ar ei gyfer ym mis Mai.

“Ac os ydyn nhw’n rhoi’r awdurdod hwnnw i fi, dyna dw i’n bwriadu ei wneud.

“Dyna ddemocratiaeth.

“Dyw e ddim yn fater o’r hyn rydw i ei eisiau na’r hyn mae Boris Johnson ei eisiau.

“Mae’n fater o’r hyn mae pobol yr Alban ei eisiau a’r dystiolaeth gynyddol yw eu bod nhw eisiau annibyniaeth.”

Mae’n dweud bod Boris Johnson yn “ofni democratiaeth” wrth awgrymu na ddylid cynnal refferendwm arall am 40 mlynedd.

Wrth gyfeirio at ei ofn, dyfynnodd hi linell o gerdd Robert Burns ar drothwy ei ben-blwydd yfory.

“Cowerin’ timorous beastie, what a panic’s in thy breastie’,” meddai.

“Mae e’n ofni democratiaeth.

“Mae’r polau nawr yn dangos bod mwyafrif o bobol yr Alban eisiau annibyniaeth.

“Os yw’r SNP yn ennill etholiad yr Alban ymhen rhai misoedd wrth gynnig rhoi’r dewis hwnnw i bobol yr Alban, yna pa ddemocrat allai sefyll yn briodol yn y ffordd?”