Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn dweud ei fod yn disgwyl “gostyngiad” yn nifer y bobol sy’n cael eu brechu ar ddechrau pob wythnos a chynnydd yng ngweddill yr wythnos, a hynny yn sgil yr aros i gyflenwadau gyrraedd.

Ac mae hefyd yn dweud ei fod yn disgwyl bwrw’r targed o frechu 70% o bobol dros 80 oed erbyn diwedd yr wythnos, er gwaetha’r oedi oherwydd y tywydd.

“Rydym yn disgwyl patrwm lle byddwn ni’n cael, yn ystod ail a thrydydd traean pob wythnos, lawer iawn mwy o gyflenwadau’n cyrraedd gyda’r potensial o gael gostyngiad ar ddechrau’r wythnos ar y dydd Llun neu’r dydd Mawrth,” meddai wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC.

“Ac mae hynny, yn syml iawn, yn ymwneud ag amserlen dosbarthu’r brechlyn AstraZeneca.

“Yn ystod yr wythnos rydyn ni ynddi, rydyn ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn y dosbarthiad hwnnw.

“Wnaethon nhw ddim wir cwblhau’r dosbarthu tan y dydd Llun neu’r dydd Mawrth, dyna pam na welsoch chi’r effaith a ddaw gyda dydd Mercher, dydd Iau neu ddydd Gwener.

“Ac mae’n dangos y capasiti ychwanegol yn ein system ac, a bod yn deg, pan dw i wedi bod yn dweud yn barhaus y byddwn ni’n gweld y rhaglenni’n cynyddu o ran cyflymdra, dw i’n credu nad yw rhai pobol wedi credu hynny o ran y ffigurau blaenorol.

“Yr hyn mae’r wythnos hon wedi’i ddangos yw fod y gallu yno i wneud hynny, gyda mwy nag 20,000 o frechlynnau wedi’u dosbarthu dros y dyddiau diwethaf, bob dydd, o gymharu â’r 10,000 neu 11,000 ar ddechrau’r wythnos.

“Felly dyna pam dw i wedi dweud yn barhaus fod y cyflenwadau gyda ni ac y gallwn ni ddosbarthu symiau sylweddol o’r brechlyn.”

Hyderus o fwrw’r targed ar gyfer pobol dros 80 oed

Er bod llai na 40% o bobol dros 80 oed wedi’u brechu yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae Vaughan Gething yn dweud ei fod yn dal yn hyderus o fwrw’r targed o 70% erbyn diwedd y penwythnos hwn.

Daw’r sicrwydd er gwaetha’r oedi yng Nghwm Taf Morgannwg yn sgil y tywydd.

“Dw i’n dal yn obeithiol y byddwn ni [yn bwrw’r targed], er bod y trefniadau heddiw wedi’u rhwystro,” meddai.

“Fyddwn ni ddim yn sicr o effaith lawn hynny tan yn ddiweddarach yn y dydd a fel y gwyddoch chi, alla i ddim darogan yr holl agweddau ar sut fydd y tywydd yn effeithio ar bethau.

“Ond dw i’n glir iawn y byddwn ni’n gweld ffigurau ddoe yn dod drwodd heddiw ac y gwelwn ni gam sylweddol arall ymlaen, a dw i’n disgwyl gweld cam arall ymlaen ar ôl brechlynnau heddiw.”

Mae’n dweud bod ei sylwadau bod y mwyafrif o bobol dros 80 oed wedi cael eu brechu’n “gamgymeriad diniwed” yn sgil y ffigurau oedd ganddo fe ddechrau’r wythnos.

“Fel y gwyddoch chi, mae’n cymryd ‘lag’ o rai diwrnodau i gywiro ein ffigurau, mae hynny’n rhannol oherwydd cofnodi data, ac yn rhannol oherwydd sicrhau ansawdd,” meddai.

“Dw i’n hyderus iawn y gwelwn ni ryw gam ymlaen, gyda’r rhai dros 80 yn cael eu cwblhau yn y dyddiau nesaf, ac rydyn ni am weld y rhai dros 70 yn cael gwahoddiad i apwyntiadau dros yr wythnos nesaf ym mhob bwrdd iechyd.”