Mae disgwyl i ddynes gael ei hethol yn brif weinidog ar Estonia am y tro cyntaf erioed.
Mae dwy brif blaid y wlad wedi dod i gytundeb i ffurfio clymblaid ar ôl i’r llywodraeth flaenorol ddod i ben yng nghanol ffrae am lygredd ariannol.
Yn ôl y cytundeb, mae disgwyl i’r ddwy blaid gael saith portffolio yr un mewn llywodraeth o 14 o aelodau a fydd yn sicrhau mwyafrif yn y senedd, Riigikogu.
Mae disgwyl i’r Arlywydd Kersti Kaljulaid benodi’r cabinet dros y dyddiau nesaf, ac i’r coronafeirws a’i effaith ar yr economi fod ar frig yr agenda i’r weinyddiaeth newydd.
Plaid Ddiwygio Estonia o dan arweinyddiaeth Kaja Kallas enillod yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2019.
Daeth Estonia yn wlad annibynnol yn 1991.
Kaja Kallas a hanes y llywodraeth
Yn gyfreithwraig ac yn gyn-ddeddfwr yn Senedd Ewrop, Kaja Kallas yw merch Siim Kallas, un o sylfaenwyr y Blaid Ddiwygio, yn gyn-brif weinidog a chyn-Gomisiynydd yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Kaja Kallas yn arwain ei phlaid ers 2018, a hi oedd cadeirydd benywaidd cynta’r blaid.
Dyma’r ail waith iddi geisio ffurfio llywodraeth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, wrth iddi fethu â ffurfio llywodraeth yn 2019.
Bryd hynny, cafodd clymblaid rhwng tair plaid ei ffurfio o dan arweinyddiaeth Juri Ratas.
Ond fe ymddiswyddodd Ratas lai na phythefnos yn ôl yn dilyn ffrae am un o’i swyddogion oedd wedi’i amau o dderbyn rhodd preifat yn gyfnewid am ffafrau gwleidyddol mewn perthynas â datblygiad eiddo yn y brifddinas Tallinn.
Fydd e ddim yn rhan o’r cabinet newydd, er bod adroddiadau y llynedd y gallai ddod yn llefarydd y senedd.
Mae Estonia yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd a NATO ers 2004.