Mae’r arlunydd Rhys Padarn Jones o Bontarddulais yn dweud iddo gael hwyl fawr ar greu jigsos yn seiliedig ar ei weithiau celf – ond yn cyfaddef ar yr un pryd nad yw’n “ffan mawr o jigsos”.

Mae Rhys yn gwerthu’r rhan fwyaf o waith ar wefan www.orielodl.com, a’r rheiny ar y cyfan yn plethu geiriau caneuon neu ddiarhebion poblogaidd gyda darluniau o’r geiriau.

Ond fe ddaeth cryn dipyn o’i waith – yn arlunydd yn arwain gweithdai ac yn athro cynradd – i ben i raddau helaeth yn ystod y cyfnod clo, ac roedd e’n chwilio am gyfeiriad newydd i’w waith er mwyn cadw i fynd.

Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer un o’r darnau o’r ddihareb ’daw eto haul ar fryn’, sydd wedi’i mabwysiadu fel arwydd o obaith yn ystod y pandemig coronafeirws, a’r ffaith iddi ddod i’r amlwg fod jigsos yn gwerthu’n dda yn ystod y cyfnod clo wrth i bobol chwilio am ddifyrrwch dan do.

“Roedd gyda fi hwnna fel poster a chardiau post yn barod ac o’n i’n gweld yn y cyfnod clo fod gwerthiant jigsos a gemau bwrdd wedi mynd lan eitha’ lot, so o’n i’n meddwl am eitem bach gwahanol yn barod i arwain lan i’r Nadolig,” meddai Rhys Padarn Jones wrth golwg360.

“Hwnna ddechreuodd e.

“Rhywbeth eitha’ diweddar yw bo fi wedi trial – paentio a dwdlo ‘yf fi fel arfer – ond o’n i wedi dechrau gwneud cwpwl o bethau ar gyfrifiadur hefyd.

“Digwydd bod, o’dd ‘Daw Eto Haul ar Fryn’ yn un o’r rhai cynta’ o’n i wedi gallu rhoi mewn i’r cyfrifiadur, ac o’n i mor hapus gyda fel oedd e’n edrych – y siapiau, y lliwiau crisp neis, a gan fod e’n ddigon clir a gwerthiant y posteri wedi bod yn dda, a natur y sefyllfa y’n ni ynddi ar y funud gyda Covid a fel mae pobol wedi bod yn paentio enfys a thynnu lluniau a rhoi pethau yn y ffenest.

“Ro’n i’n meddwl fyddai jigso yn beth eitha’ da i ddiddori pobol, rhywbeth i wneud gyda’r teulu a rhai pobol ar ben eu hunain sy’n chwilio am bethau i wneud er lles.

“O’n i’n gwybod fyddai e’n gweithio’n eitha’ da so ordrais i gwpwl cyn y Nadolig a gwerthon nhw i gyd ma’s, so newydd roi archeb mewn a chael stoc newydd ‘yf fi, a gan bod rheiny wedi mynd mor dda, wnes i un Nadolig hefyd ar thema’r Nadolig, ac mae’r trydydd yn un barod gyda fi nawr, sef Gŵyl Ddewi  am Gymreictod.”

Y dechneg

Ac yntau wedi hen arfer â dylunio celf mewn dulliau traddodiadol, pam aeth Rhys ati i greu jigsos o’i waith a sut mae’n gwybod pa ddarluniau fyddai’n addas ar gyfer jigsos?

“Sai’n meddwl bo fi byth wedi bod yn rhyw ffan mawr o jigsos ‘yn hunan,” mae’n cyfaddef.

“Mae Luned, y wraig, wedi dwlu arnyn nhw wastod, so wrth siarad â hi, fi’n gwybod beth sy’n gweithio a beth sy’ ddim.

“Ti’n meddwl am bethau ti ddim eisiau, o ran lot o’r un lliw neu rywbeth sy’n rhy galed – ti eisiau lefel o her ond ti’n gwybod bo ti’n mynd i’w wneud e’n amhosib i bobol os oes gyda ti yr un shade o liw am lot o’r darn.

“So o’n i’n chwilio am rywbeth oedd yn mynd i apelio at bobol gynta’ o ran y llun ei hunan, ac o’dd rhaid bod y llun yn rhywbeth fyddai pobol eisiau hala amser i greu, so o’n i’n teimlo bod rhaid i’r llun ei hunan fod yn lliwgar fel fy nghelf i ta beth, ond yn ddigon diddorol i ddal sylw pobol.

“A wedyn unwaith o’n nhw’n dechrau, o’n i ddim eisiau bo nhw hanner ffordd trwyddo yn meddwl fod e’n rhy galed ac yn rhoi lan.

“Fel ‘yf fi wedi setio fe lan, fi’n gobeithio bod digon o bethau trwy’r arwynebedd cyfan y jigso i bobol ddyfalbarhau â fe yn hytrach na bo nhw’n cyrraedd rhyw bwynt ac yn mynd yn styc ac yn rhoi lan.”

Manteision jigsos ac ymchwil

Yn ôl Rhys, sydd hefyd yn gweithio’n rhan amser fel athro, mae e wedi colli cryn dipyn o waith fel arlunydd yn ystod y pandemig, ac yntau’n cynnig gweithdai mewn ysgolion.

“Fi’n ffodus yn y ffordd fi’n dal yn athro rhan amser, so mae hanner wythnos gyda fi wastad yn yr ysgol, so mae hwnna wedi cymryd lot o’n amser i,” meddai.

“Er mai rhyw dri diwrnod fi fod i weithio, mae hwnna wedi cymryd sbel fel bo fi’n gweithio’n llawn amser.

“So o’dd rhaid i fi drio ffeindio rhywbeth o’dd yn ddigon rhwydd ac o’dd dim yn mynd i hala lot fawr o waith ecstra i fi o ran y gwaith celf ond pethau fyddai’n gweithio i bobol o dan yr amgylchiadau.”

Bwlch yn y farchnad

Wrth ddechrau ymchwilio i jigsos, sylweddolodd Rhys mai prin yw’r rhai sydd ar gael yn y Gymraeg a bod yna fwlch yn y farchnad ar unwaith.

“Mae lot o rai i blant bach pan wyt ti’n tyfu lan, ond sai’n gallu meddwl am lwyth o jigsos Cymraeg i oedolion,” meddai.

“O’dd hwnna’n un peth o’n i’n gwybod fyddai gap ’na, p’un a fyddai pobol yn mynd amdano fe sai’n gwybod ond fi’n credu bod bach o lwc yn y sefyllfa, jyst achos bod pobol yn chwilio am rywbeth i wneud, yn enwedig yn mynd mewn i’r gaeaf.

“Mae’n dywyll tu fa’s yn gynnar, so’r tywydd mor dda yn hwyrach so ti’n gwybod fod pobol yn mynd i fod yn styc yn y ty yn fwy nag arfer o gymharu â’r cyfnod clo cynta’ lle o’t ti o leia’n gallu mynd ma’s am wâc bach yn haws.

“Gobeithio pan ddewn ni ma’s o hwn, pryd bynnag fydd e, bydd pobol dal yn meddwl fyddai werth eu prynu nhw.”

Y jigsos

Yn wahanol i lawer iawn o jigsos, rhai yn benodol i oedolion mae Rhys yn eu creu, er ei fod yn dweud bod ei blant ei hun yn hoff o roi cynnig arnyn nhw.

“Mae’r tri jigso fi wedi dod ma’s â nhw yn 1,000 o ddarnau so maen nhw’n eitha’ caled,” meddai.

“Fi wedi cael adborth neis wrth y rhai sydd wedi prynu yn dweud bod cwpwl wedi joio gwneud nhw a bo nhw’n falch, y rhai sydd ddim wedi gwneud jigsos ers blynyddoedd, ac yn dweud “Joies i wneud hwnna, o’dd e’n galed…” a’r teimlad o falchder bo nhw wedi llwyddo i wneud rhywbeth erbyn y diwedd.

“Mae gyda ti rai yn amlwg sy’n gwneud jigsos yn aml sydd eisiau un arall i adio i’r casgliad sydd gyda nhw ac yn gweld rhywbeth gwahanol, yn enwedig os y’n nhw’n Gymry Cymraeg sydd ddim wedi berchen jisgo Cymraeg o’r blaen.

“Falle bydd e’n rhywbeth yn y dyfodol, mae rhai wedi gofyn ydw i’n mynd i wneud rhai sy’n 500 o ddarnau neu rywbeth llai i wneud e bach yn haws.

“Unwaith mae gyda ti’r llun, galli di ddewis faint o ddarnau yw e, so sdim byd yn stopio fi yn y dyfodol newid maint y darnau a chynnig rhai i blant hefyd.”

Gwerthu ar y we yn unig

Mae Rhys yn gwerthu ei jigsos, fel ei weithiau celf, drwy ei wefan ei hun yn bennaf, yn rhannol am fod siopau Cymraeg wedi cau eu drysau am rannau helaeth o’r flwyddyn yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws.

“Mae’r cyfnod clo wedi stopio fi allu mynd i lefydd a dangos pethau,” meddai.

“Fi wedi gwerthu pethau drwy siopau Cymraeg cyn nawr ac yn aml, ti’n dibynnu ar allu mynd a’u dangos nhw, siarad â phobol wyneb yn wyneb ond sai wedi gallu gwneud e.

“Mae popeth wedi mynd trwy’r wefan ond digwydd bod, mae mwy o bobol yn mynd drwy’r wefan yn enwedig nawr yn arwain lan at y Nadolig yn fwy na gallu mynd i siop.

“So mae e wedi gweithio o ‘mhlaid i tro hyn sy’ bach yn od.”