Mae disgwyl i’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, gyhoeddi a yw Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd ei tharged i frechu 70% o bobl dros 80 oed a phreswylwyr cartrefi gofal erbyn nos Sul (Ionawr 24).

Roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn “hyderus” y byddai’r targed yn cael ei gyrraedd, er gwaetha cyhuddiadau ei fod e a Vaughan Gething wedi gorliwio’r cynnydd dros y dyddiau diwethaf.

Yn ôl ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru roedd 264,538 o bobl wedi cael y brechlyn coronafeirws erbyn ddoe (Ionawr 24).

Bu’n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gau pedair canolfan frechu oherwydd y tywydd ddydd Sul (Ionawr 24).

Roedd disgwyl i ganolfannau Pen-y-bont ar Ogwr, Cwm Rhondda, Abercynon a Merthyr Tudful fod ynghau tan heddiw (dydd Llun, Ionawr 25) “am resymau diogelwch”, meddai’r bwrdd iechyd.

Yn ôl y bwrdd iechyd mae apwyntiadau’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio wedi cael eu symud i ddyddiad arall.

Mae disgwyl i Vaughan Gething gyhoeddi’r ffigurau brechu diweddaraf amser cinio.