Mae’r cyn-Brif Weinidog, Gordon Brown, wedi rhybuddio fod perygl i’r Deyrnas Unedig droi’n “wladwriaeth fethedig” oni bai bod newidiadau i’r undeb.

Daw ei sylwadau wedi i bapur The Sunday Times gyhoeddi canlyniadau arolygon barn oedd yn dangos bod mwyafrif o blaid annibyniaeth yn yr Alban a 23% o blaid annibyniaeth yng Nghymru.

Mae Gordon Brown wedi annog y Prif Weinidog Boris Johnson i ystyried syniadau fel disodli Tŷ’r Arglwyddi gyda “senedd y rhanbarthau”, a sefydlu comisiwn ar ddemocratiaeth a fyddai’n adolygu sut y caiff y Deyrnas Unedig ei llywodraethu.

‘Dau ddewis’

“Dau ddewis sydd bellach, gwladwriaeth wedi’i diwygio neu wladwriaeth aflwyddiannus,” meddai Gordon Brown ym mhapur The Daily Telegraph.

“Byddai’r comisiwn yn darganfod bod y Deyrnas Unedig angen fforwm o’r cenhedloedd a’r rhanbarthau ar frys sy’n dod â nhw a Boris Johnson at ei gilydd yn rheolaidd.

“Ni all yr un wlad integreiddio’n genedlaethol heb gynhwysiant gwleidyddol, a gallai’r comisiwn ddechrau drwy ddysgu o brofiad gwledydd fel Awstralia, Canada, yr Almaen a’r Unol Daleithiau lle, yn rhannol oherwydd dylanwad Prydain ar adegau yn y gorffennol, mae ail siambrau yn seneddau rhanbarthol yno yn rhoi llais i leiafrifoedd.”

Dywedodd Gordon Brown y dylai’r Prif Weinidog hefyd ddefnyddio’r Lluoedd Arfog a’r Gwasanaeth Iechyd i ddangos “manteision” yr undeb.

‘Annibyniaeth yr Alban wedi ei setlo yn 2014’

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran y Cabinet bod pawb am weld gwleidyddion yn “cydweithio i ganolbwyntio ar drechu’r coronafeirws”.

“Dyna brif flaenoriaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig o hyd, sydd wedi cefnogi swyddi a busnesau ar draws y pedair gwlad drwy gydol y pandemig.

“Cafodd y cwestiwn ar annibyniaeth yr Alban ei setlo’n bendant yn 2014, pan bleidleisiodd yr Alban i aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

“Nawr yn fwy nag erioed, dylem fod yn tynnu at ein gilydd i gryfhau’r Deyrnas Unedig, yn hytrach na cheisio ei gwahanu”.

Canfu’r arolwg gan The Sunday Times fod  49% yn yr Alban o blaid annibyniaeth, gyda dim ond 44% yn erbyn – ac mae’r ffigurau hynny’n newid i 52% a 48% o anwybyddu’r rhai a nododd nad oedden nhw’n gwybod y naill ffordd na’r llall.