Mae’r cwmni dillad ar-lein Boohoo wedi prynu brand a gwefan Debenhams am £55 miliwn, ond nid yw’r 118 o siopau stryd fawr yn rhan o’r cytundeb.

Mae’n annhebygol felly y bydd y 12,000 o swyddi sy’n weddill yn cael eu hachub.

Bydd cynnyrch Debenhams yn cael ei werthu gan Boohoo o ddechrau’r flwyddyn nesaf, gan ganiatáu digon o amser i’r gweinyddwyr gau’r safleoedd unwaith y caniateir iddyn nhw ailddechrau ar ôl i gyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio.

‘Cyfle gwych’

Dywedodd cwmni Boohoo fod y fargen yn “gyfle gwych” i dargedu cwsmeriaid newydd a chamu i’r farchnad harddwch, chwaraeon a nwyddau cartref am y tro cyntaf.

“Mae prynu Debenhams yn strategol arwyddocaol gan ei fod yn gam enfawr sy’n cyflymu ein huchelgais i fod yn arweinydd, nid yn unig mewn eFasnach ffasiwn, ond mewn categorïau newydd gan gynnwys harddwch, chwaraeon a nwyddau cartref,” meddai cadeirydd gweithredol Boohoo, Mahmud Kamani.

Mae Boohoo hefyd wedi prynu nifer o frandiau adnabyddus eraill yn ddiweddar gan gynnwys Oasis, Coast a Karen Millen.

Cau siopau Debenhams yn “newyddion difrifol i Fangor”

Mae’r cwmni am gau eu 124 o siopau yng ngwledydd Prydain wrth i’r cwmni gael ei ddirwyn i ben