Mae cannoedd o brotestwyr wedi gwrthdaro gyda’r heddlu yn yr Iseldiroedd am yr ail benwythnos yn olynol yn dilyn anniddigrwydd am y cyfyngiadau coronfeirws sydd wedi bod mewn grym yn y wlad ers canol mis Rhagfyr.
Yn ninas Eindhoven bu cannoedd o brotestwyr yn cynnau tannau a thaflu cerrig at swyddogion yr heddlu tra bod yr heddlu wedi ymateb drwy ddefnyddio nwy dagrau a chwistrellu dŵr atyn nhw. Cafodd o leiaf 30 o bobl eu harestio.
Roedd yr heddlu yn y brifddinas Amsterdam hefyd wedi chwistrellu dŵr at brotestwyr oedd wedi cynnal protest mewn sgwâr wrth ymyl Amgueddfa Van Gogh.
Dyma’r trais gwaethaf yn yr Iseldiroedd ers dechrau’r pandemig a’r ail ddydd Sul pan mae’r heddlu wedi gwrthdaro gyda phrotestwyr yn Amsterdam.
Mae’r wlad wedi bod o dan gyfyngiadau llym ers canol mis Rhagfyr ac mae disgwyl iddyn nhw fod mewn lle tan o leiaf Chwefror 9.
Daw’r trais ar ôl i derfysgwyr, sy’n gwrthwynebu’r cyrffiw yn y wlad, gynnau tân mewn canolfan brofi coronafeirws ym mhentref Urk, tua 50 milltir i’r gogledd ddwyrain o Amsterdam.
Dywed yr heddlu eu bod nhw wedi dirwyo mwy na 3,600 o bobl ar draws y wlad am dorri rheolau’r cyrffiw sydd mewn grym o 9yh nos Sadwrn hyd at 4.30yb fore Sul.